Dafydd ap Gruffudd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Wici Rhuthun 1 (sgwrs | cyfraniadau)
Arglwydd Dyffryn Clwyd
Wici Rhuthun 1 (sgwrs | cyfraniadau)
dolen
Llinell 34:
 
==Rhyfel 1282-83==
Yr oedd Dafydd wedi cael addewid am diroedd yng ngogledd Cymru gan Edward yn dâl am ei gymorth, ond ni chafodd y cyfan a addawyd iddo. Ar [[Sul y Blodau]]<ref>[http://yba.llgc.org.uk/cy/c-DAFY-APG-1283.html [[Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein]];] adalwyd 21 Mawrth 2016</ref> (21 Mawrth 1282)<ref>[[Gwyddoniadur Cymru]], tud. 261; [[Gwasg Prifysgol Cymru]] (2008)</ref> ymosododd Dafydd ar [[Penarlâg|Benarlâg]], gan ddechrau'r rhyfel a roes derfyn ar deyrnas Gwynedd. Yr oedd i Dafydd ei hun ran amlwg yn y rhyfel, a phan laddwyd Llywelyn mewn ysgarmes yng [[Cilmeri|Nghilmeri]] ddiwedd y flwyddyn honno cyhoeddwyd Dafydd yn dywysog yn ei le. Nid oedd yr un gefnogaeth i Dafydd ag i Lywelyn, ond llwyddodd i gadw [[Castell Dolwyddelan]] am gyfnod. Wedi i'r castell yma syrthio i fyddin Edward ar [[18 Ionawr]] 1283, enciliodd Dafydd i [[Castell y Bere|Gastell y Bere]], lle bu byddin o dros 3,000 o wŷr yn gwarchae arno. Bu raid i'r garsiwn bychan ildio ar [[25 Ebrill]] ond llwyddodd Dafydd i ddianc i [[Castell Dolbadarn]], cyn gorfod chwilio am loches yn y mynyddoedd. Ymddengys iddo gael ei fradychu gan rai o'i wyr ei hun, a chymerwyd ef yn garcharor ar lethrau [[Cadair Idris]].
 
==Ei ddiwedd==