Tylwyth Teg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Tudalen newydd: thumb|250px|Y syniad Fictoraidd am y Tylwyth Teg - y '''[[Cottingley Fairies''' cyfres o luniau gan Elsie Wright a Frances Griffiths.]] Defnyddir ...
 
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Llinell 3:
Defnyddir yr enw '''Tylwyth Teg''', weithiau '''Bendith y Mamau''' yn ne Cynru, am fodau goruwchnaturiol sy'n ymddangos yn chwedloniaeth llawer gwlad, er enghraifft ''banshee'' yn [[Iwerddon]], ''brownies'' yn [[yr Alban]], ''fairies'' ac ''elves'' yn [[Lloegr]], ''fee'' yn [[Ffrainc]].
 
Efallai fod gan y chwedlau am y tylwyth teg gysylltiad a hen dduwiau a duwiesau [[y Celtiaid]]. Cysylltir hwy yn aml a llynnoedd; ar y llaw arall dywedid fod [[criafolen]] yn amddiffyniad rhagddynt, ac nad oeddynt yn hoffi [[hararnhaearn]]. Ceir chwedlau amdanynt o lawer rhan o Gymru' casglwyd llawer o'r rhain gan Syr [[John Rhys]], [[Glasynys]] ac eraill. Ceir nifer o themau yn y chwedlau hyn; un yw fod y tylwyth teg yn cyfnewid babanod dynol am eu bananod eu hunain. Thema arall yw bod meidrolyn yn ymweld a gwlad y tylwyth teg, weithiau yn dychwelyd oddi yno i ddarganfod fod blynyddoedd lawer wedi mynd heibio.
 
Chwedl a gysylltir a nifer o ardaloedd yw'r un am ddyn yn priodi merch o'r tylwyth teg, ar yr amod na fyddai fyth yn ei tharo, neu na fyddai'n ei tharo a haearn. Yn y diwedd, yn fwriadol neu drwy ddamwain, mae'n gwneud hynny, ac mae'r ferch yn diflannu. Ceir fersiynau o'r xchwedl yma yn gysylltiedig a nifer o lynnoedd, megis [[Llyn y Fan Fach]] yn [[Sir Gaerfyrddin]]. Gallai'r tylwyth teg roi rhoddion i bobl oedd yn eu helpu, neu gosbi'r rhai oedd yn eu croesi.