Buddug (Boudica): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot Adding: bg:Будика
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
llengoedd
Llinell 4:
Roedd [[Britannia]], y rhan o [[Prydain|Brydain]] a oedd dan reolaeth [[Rhufain]], yn cael ei llywodraethu gan y [[procurator]] Rhufeinig llygredig [[Catus]] yn enw y llywodraethwr [[Gaius Suetonius Paulinus|Suetonius Paulinus]], a oedd yng ngogledd [[Cymru]] yn brwydro yn erbyn y [[derwyddon]] ym [[Môn]]. Pan fu farw [[Prasutagas]], gŵr Buddug, dechreuodd Catus anrheithio yr Iceni a'u tiroedd.
 
Yn O.C. 61 cipiodd Catus Fuddug a'i ddwy ferch ifanc a'u fflangellu yn gyhoeddus ac yna eu treisio. Mewn canlyniad cododd yr Iceni mewn gwrthryfel yn erbyn y Rhufeiniaid. Dan arweiniad Buddug, a oedd yn rhyfelwraig ddewr, gorchfygodd yr Iceni yry IXfednawfed lleng, [[LlengLegio Rufeinig|LengIX RufeinigHispana]]. Aethant yn eu blaen i gipio [[Verulamium]] ([[St Albans]]), y brifddinas Rufeinig ar y pryd [[Camelodunum]] ([[Colchester]]), ynghyd â porthladd [[Londinium]] ([[Llundain]]).
 
Brysiodd Suetonius Paulinus a'i fyddin yn ôl o Fôn. Roedd ganddo fyddin o tua deng mil o wŷr: [[Legio XIV Gemina]], rhan o [[Legio XX Valeria Victrix]] a rhai milwyr cynorthwyol. Cyfarfu â Buddug a'i llu ger [[Brwydr High Cross|High Cross]] ar [[Stryd Watling]] a bu brwydr mawr. Ymladdodd yr Iceni yn ffyrnig ond, er bod ganndynt fantais sylweddol o ran eu nifer roedd y llengwyr Rhufeinig yn rhy ddisgybliedig iddynt. Ffoes Buddug a gweddillion ei byddin adref. Ymddengys ei bod wedi lladd ei hun yno yn hytrach na dioddef y gwarth o weld ei llwyth a'i theyrnas yn cael eu hanreithio.
 
Yn y [[18fed ganrif]], dan ddylanwad [[Rhamantiaeth]] a'r diddordeb newydd mewn popeth Celtaidd, darganfuwyd Buddug o'r newydd a thyfodd yn ffigwr arwrol poblogaidd. Ceir pennod arbennig o ddiddorol amdani yn [[Drych y Prif Oesoedd]] (1716 a 1740), llyfr hanes poblogaidd hynod a dylanwadol [[Theophilus Evans]]. Mabwysiadwyd Buddug gan y Saeson dan yr enw ''Boadicea'' yn oes [[Fictoria]] (''Buddug'' arall) fel math o arwres genedlaethol Brydeinig.