Myrddin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Billinghurst (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎Cysylltiad allanol: remove redundant template, link FA now managed from Wikidata, removed: {{Link FA|fr}} using AWB
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 6ed ganrif6g using AWB
Llinell 1:
[[Delwedd:Merlin (illustration from middle ages).jpg|rightdde|thumbbawd|225px|Myrddin yn adrodd ei farddoniaeth, o lyfr o Ffrainc o'r 13eg ganrif.]]
 
Mae '''Myrddin''' yn gymeriad pwysig yn [[llenyddiaeth Gymraeg]] a [[mytholeg|chwedloniaeth]] y [[Cymry]], yn cynnwys yr hanesion am y [[Brenin Arthur]]. Efallai fod yr enw yn cyfeirio at sawl person, hanesyddol a chwedlonol.
 
Ceir y cyfeiriad cyntaf at berson o'r enw Myrddin mewn nifer o gerddi [[darogan]], o ddyddiad ansicr ond yn cyfeirio at ddigwyddiadau yn y [[6ed ganrif6g]] yn yr [[Hen Ogledd]]. Mae'r rhain yn cynnwys yr ''Afallennau'', yr ''Hoianau'', ''Cyfoesi Myrddin a Gwenddydd ei chwaer'', ''Gwasgargerdd Fyrddin yn y bedd'' a ''Peirian Faban''. Gellir casglu o'r cerddi hyn fod Myrddin yn [[bardd llys|fardd llys]] i [[Gwenddoleu fab Ceidio]], a laddwyd ym [[Brwydr Arfderydd|Mrwydr Arfderydd]] yn erbyn [[Rhydderch Hael]]. Dywedir i Fyrddin fynd yn wallgof o weld y lladdfa, a chael y ddawn i broffwydo.
 
Datblygwyd y chwedl yn ddiweddarach gan [[Sieffre o Fynwy]], sy'n cysylltu Myrddin a [[de Cymru]], ac yn enwedig â [[Caerfyrddin|Chaerfyrddin]], yn hytrach na'r Hen Ogledd. Yn ei ''Historia Regum Britanniae'' (1136) mae Sieffre yn adrodd fod Myrddin yn fachgen "heb dad", a bod bwriad i'w ladd a thaenellu ei waed ar sylfeini caer yr oedd [[Gwrtheyrn]] yn ceisio ei hadeiladu. Mae'r hanes yma yr un hanes a'r un a adroddir gan [[Nennius]] am [[Dinas Emrys|Ddinas Emrys]], ond mai [[Emrys Wledig]] (Ambrosius Aurelianus) yw'r bachgen yn stori Nennius, nid Myrddin; cyfeirir at Fyrddin fel 'Myrddin Emrys' yn aml. Yn ôl Sieffre daeth Myrddin yn ddewin ac yn gynghorydd i'r Brenin Arthur. Yn ddiweddarach ysgrifennodd Sieffre ei ''[[Vita Merlini]]'' ('Buchedd Myrddin') am Fyrddin ei hun.