Myrddin

cymeriad chwedlonol, a bardd

Mae Myrddin yn gymeriad pwysig yn llenyddiaeth Gymraeg a chwedloniaeth y Cymry, yn cynnwys yr hanesion am y Brenin Arthur. Efallai fod yr enw yn cyfeirio at sawl person, hanesyddol a chwedlonol.

Myrddin yn adrodd ei farddoniaeth, o lyfr o Ffrainc o'r 13eg ganrif.

Ceir y cyfeiriad cyntaf at berson o'r enw Myrddin mewn nifer o gerddi darogan, o ddyddiad ansicr ond yn cyfeirio at ddigwyddiadau yn y 6g yn yr Hen Ogledd. Mae'r rhain yn cynnwys yr Afallennau, yr Hoianau, Cyfoesi Myrddin a Gwenddydd ei chwaer, Gwasgargerdd Fyrddin yn y bedd a Peirian Faban. Gellir casglu o'r cerddi hyn fod Myrddin yn fardd llys i Gwenddoleu fab Ceidio, a laddwyd ym Mrwydr Arfderydd yn erbyn Rhydderch Hael. Dywedir i Fyrddin fynd yn wallgof o weld y lladdfa, a chael y ddawn i broffwydo.

Datblygwyd y chwedl yn ddiweddarach gan Sieffre o Fynwy, sy'n cysylltu Myrddin a de Cymru, ac yn enwedig â Chaerfyrddin, yn hytrach na'r Hen Ogledd. Yn ei Historia Regum Britanniae (1136) mae Sieffre yn adrodd fod Myrddin yn fachgen "heb dad", a bod bwriad i'w ladd a thaenellu ei waed ar sylfeini caer yr oedd Gwrtheyrn yn ceisio ei hadeiladu. Mae'r hanes yma yr un hanes a'r un a adroddir gan Nennius am Ddinas Emrys, ond mai Emrys Wledig (Ambrosius Aurelianus) yw'r bachgen yn stori Nennius, nid Myrddin; cyfeirir at Fyrddin fel 'Myrddin Emrys' yn aml. Yn ôl Sieffre daeth Myrddin yn ddewin ac yn gynghorydd i'r Brenin Arthur. Yn ddiweddarach ysgrifennodd Sieffre ei Vita Merlini ('Buchedd Myrddin') am Fyrddin ei hun.

Llyfryddiaeth golygu

Ceir nifer fawr iawn o lyfrau ac erthyglau am Fyrddin. Rhoddir yma detholiad byr o weithiau ysgolheigaidd sy'n synnwys llyfryddiaethau defnyddiol.

  • Basil Clarke (gol.), The Life of Merlin (1973).
  • A. O. H. Jarman, The Legend of Myrddin (1960)
  • eto, pennod yn R. S. Loomis (gol.), Arthurian Literature in the Middle Ages (1959)
  • eto, 'The Merlin Legend and the Welsh Tradition of Prophecy', yn Rachel Bromwich ac eraill (gol.), The Arthur of the Welsh (Caerdydd, 1991)
  • N. Tolstoy, Quest for Merlin (1985)

Ffuglen golygu

Gweler hefyd golygu

Dolenni allanol golygu