Beirdd y Tywysogion: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 14eg ganrif14g using AWB
Llinell 1:
{{Llenyddiaeth Gymraeg}}
Arferid cyfeirio at y [[Bardd llys|beirdd llys]] a ganai yn [[Oes y Tywysogion]] fel [[y Gogynfeirdd]], ond erbyn heddiw defnyddir y term '''Beirdd y Tywysogion'''. Mae'r term Gogynfeirdd yn cynnwys rhai o'r beirdd a flodeuai ar ddechrau'r [[14eg ganrif14g]] ac a ganai yn null traddodiadol Beirdd y Tywysogion; ond serch hynny maen nhw'n perthyn i gyfnod [[Beirdd yr Uchelwyr]] pan gollasid nawdd y llysoedd brenhinol mawr.
 
Fe'u gelwir yn Feirdd y Tywysogion am eu bod, bron yn ddieithriad, yn feirdd uchel eu parch a statws a ganai i dywysogion Cymru yn ystod y cyfnod rhwng dyfodiad y [[Normaniaid]] i'r wlad a chwymp [[Llywelyn ap Gruffudd]] a'i frawd [[Dafydd ap Gruffudd|Dafydd]] yn ei frwydr dros annibyniaeth Cymru yn erbyn coron [[Lloegr]].