Llangystennin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 5ed ganrif5g using AWB
Llinell 3:
Mae '''Llangystennin''' (amrywiad : Llangwstennin) yn [[plwyf|blwyf]] gwledig i'r de-ddwyrain o [[Llandudno]] a [[Llanrhos]] yn sir [[Conwy (sir)|Conwy]], gogledd [[Cymru]]. Mae plwyf Llangystennin yn cynnwys Plas Llangystennin, pentrefi [[Mochdre (Conwy)|Mochdre]], [[Pabo]] a [[Bryn Pydew]], a thref [[Cyffordd Llandudno]].
 
Enwir y plwyf ar ôl [[Sant]] [[Cystennin]] (Cystennin Fendigaid neu Cystennin ap Cynfor), mab [[Elen Luyddog]] o ardal [[Caernarfon]] yn ôl traddodiad ; gyda'i fam a'i frawd Sant [[Peblig]] dywedir iddo gyflwyno i Gymru mynachaeth [[Celtaidd|Geltaidd]] [[Gâl]] yn y [[5ed ganrif5g]].
 
Y mae eglwys Llangystennin yn hen. Yn ôl traddodiad, codwyd eglwys seml ar y safle yn y 5ed ganrif. Yn [[Oes y Tywysogion]] roedd ym meddiant [[Abaty Aberconwy]] ac am gyfnod yn perthyn i eglwys [[Abergele]] yn ddiweddarach. Yn ôl un fersiwn o'r hanes, gwrandawyd cwyn [[Dafydd ap Gruffudd]], brawd [[Llywelyn ap Gruffudd]], Tywysog [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]], yn erbyn y brenin [[Harri III o Loegr]] yn Llangystennin ; gwysiwyd y brenin gan abadau Aberconwy a [[Abaty Cymer|Chymer]] i ateb y cyhuddiad ond ni ddaeth (credir erbyn hyn mai i eglwys [[Caerwys]] y galwyd y brenin). Ceir ffenestr liw nodedig yn yr eglwys a meini coffa nifer o aelodau o deulu Llwydiaid Llangystennin yn ogystal.