Pryderi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Cymeriad ym [[Pedair Cainc y Mabinogi|Mhedair Cainc y Mabinogi]] yw '''Pryderi'''. Ef yw'r unig gymeriad sy'n ymddangos ym mhob un o'r pedair cainc.
 
Yn y Gainc Gyntaf, ''[[Pwyll, Pendefig Dyfed]]'', ceir hanes Pwyll yn cyfarfod [[Arawn]], brenin [[Annwfn]] (yr [[Arallfyd]]) ac yn cyfnewid lle â fo am flwyddyn ac yn ennill [[Rhiannon]] yn wraig. Genir Pryderi i Bwyll a Rhiannon, ond ar noson ei eni, mae'n diflannu. Cyhuddir Rhiannon o'i ladd, ond yn ddiweddarach ceir hyd iddo fel [[Gwri Gwallt Eurin]] yn llys [[Teyrnon]] yng [[Gwent|Ngwent]]. Ar ddiwedd y gainc mae Pryderi'n olynu ei dad fel Pendefig Dyfed gan ychwanegu saith [[Cantref|gantref]] [[SeisyllwchSeisyllwg]] i'w diriogaeth.
 
Dim ond rhan fechan sydd gan Pryderi yn yr Ail Gainc, ''[[Branwen ferch Llŷr]]''. Wedi'r rhyfel yn [[Iwerddon]] rhwng gwŷr [[Bendigeidfran]] a gwŷr [[Matholwch]], brenin Iwerddon, dim ond saith o'r Cymry sy'n dychwelyd yn fyw, gyda Pryderi yn un ohonynt.