Defnyddiwr:Twm Elias/Sêr a Phlanedau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Twm Elias (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Twm Elias (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 448:
*Y Cludydd Dŵr (Aquarius) – Y bachgen hardd Ganymede oedd hwn. Fe’i ffansiwyd ef gan Iau a’i cipiodd o i weini byrddau i’r duwiau.
*Y Pysgod (Pisces) – i ddianc rhag y cawr Typhoeus newidiodd Iau yn hwrdd; Diana yn gath; Bacchus yn afr a Gwenner a Cupid yn ddau bysgodyn. Dyrchafwyd y ddau bysgodyn yn un o’r cytser.
 
 
==Chwedlau’r Cytser==
 
Fel y crybwyllais yn y 13fed erthygl yn y gyfres hon (Llafar Gwlad 104, tud 10) mae’r arfer o geisio gwneud synwyr o ddosbarthiad sêr y nos drwy ddiffinio patrymau yn eu mysg yn hen iawn. Dengys tystiolaeth archeolegol a hanesyddol fod hyn wedi datblygu yn annibynnol mewn sawl rhan o’r byd – yn y dwyrain canol, de Ewrop, Tsieina a chanolbarth America – a hynny cyn gynhared a 3,000 – 4,500 o flynyddoedd yn ôl.
 
Tybir nad oedd gogledd Ewrop yn rhyw bell iawn ar ei hol hi chwaith. Rydym yn gyfarwydd â’r syniad bod Côr y Cewri a chylchoedd cerrig tebyg yn medru gweithredu fel calendrau tymhorol i nodi symudiadau’r haul, y lloer ac efallai rhai o’r cytser hefyd. Byddai hynny yn bwysig i amseru gweithgareddau amaethyddol tymhorol a seremonïau mawr y flwyddyn. Daeth tystiolaeth newydd o’r Almaen yn lled ddiweddar i gadarnhau pwysigrwydd o leia un o’r cytser pan ganfyddwyd disg metel o’r Oes Efydd sy’n dangos yr haul, y lloer a chlwstwr o ddotiau ar ffurf y Sosban Fach (Pleiades).
Cyfundrefnau gwahanol
 
Un peth ddaw’n amlwg iawn pan gymharwn gyfundrefnau astrolegol gwahanol ddiwylliannau’r byd yw’r gwahaniaethau sylweddol, mympwyol hyd’noed, sydd, neu oedd rhyngthynt. Roedd mytholegau cytserol gwreiddiol yr India, Persia, Mesopotamia, yr Aifft a Groeg yn dra gwahanol. Ond yn sgïl goresgyniadau ymerodraethol ac ymlediad phob math o ddylanwadau diwylliannol datblygodd rhywfaint o gysondeb yn eu patrymau cytserol ac yn natur rhai o’r chwedlau cysylltiedig. Dyma roddodd inni gyfundrefn astrolegol y ‘gorllewin’ – sydd yn dipyn o lobsgows i ddweud y lleia, o ran tarddiad ei ‘chynhwysion’.
Ond pan edrychwn ar gyfundrefnau’r dwyrain pell a rhai gwreiddiol canolbarth America gwelwn eu bod nhw yn dra gwahanol a llawer mwy cyfannol. Yn y gorllewin ceir 88 o gytser swyddogol, tra yn Tsieina rhennir yr awyr i 31 ‘ardal’ sy’n cynnwys tair ‘corlan’ o amgylch pegwn y gogledd ac yna 28 ‘tŷ’ yng ngweddill y ffurfafen. O fewn y 31 ardal ceir 23 o deuluoedd serog sy’n cyfateb i’r cytser gorllewinol ond, bron ymhob achos, mae cyfuniadau gwahanol o sêr ynddynt ac fe’u henwyd mewn dull gwahanol. Mae’r mwyafrif ohonynt yn cynrychioli gwrthrychau neu rannau o’r corff ac mae i bob un eu rhan yn y gyfundrefn astrolegol ddwyreiniol. Yn sicr dyma drefn soffistigedig iawn a ddefnyddir i ddarllen, ym mhatrymau’r sêr, ffawd y crediniwr.
 
===Y cytser deheuol ===
 
Os enwid y cytser gorllewinol gogleddol ar ôl creaduriaid neu bersonnau chwedlonol, nid felly cytser hemisffêr y de. Enwyd y rhan fwyaf o’r rhain gan un gŵr, sef yr Abad Nicolas de LaCaille, a yrrwyd gan y Pab i fapio’r cytser deheuol ganol y 18g. Fel swyddog eglwysig cydwybodol dewisodd osgoi enwau mytholegol paganaidd a defnyddiodd enwau oedd yn adlewyrchu technoleg ei oes yn hytrach. Er enghraifft: Antila (y pwmp); Circinus (y cwmpawd); Fornax (y ffwrnais); Horologium (y cloc); Microscopium (y meicroscôp); Norma (lefel y syrfêwr); Sextans (y secstant) a Telescopium. Ychwanegodd enwau ambell greadur megis: Chaemeleon; Grus (y garan); Musca (y pry); Pavo (y paun); Tucana (y twcan) a Volans (y pysgodyn ehedog). Hefyd ambell enw crefyddol megis: Ara (yr allor) a Crux (Croes y de). Tybed pa enwau a roddai pe cai’r gwaith heddiw? Y teledu, y beic cwad a’r ffôn symudol?
 
 
===Y dull modern===
Erbyn heddiw safonwyd enwau a sefydlogwyd ffiniau’r cytser gan yr Undeb Astronomegol Ryngwladol (IAU) yn seiliedig, i raddau helaeth, ar waith Eugene Delporte yn y 1930au ac eraill. Lleolir pob un o’r cytser mewn sector benodol o’r ffurfafen gyda ffiniau pendant o fewn patrwm grid gofodol. Mae hynny yn ein galluogi i leoli’n fanwl pob seren a gwrthrych gofodol ar unrhyw adeg a’u cofrestru mewn catalog seryddol safonol.
 
===Ambell chwedl===
 
Dyma ddetholiad byr o ddeunaw o’r chwedlau ‘clasurol’ a ddylunir gan y cytser:
Andromeda – pan glymwyd Andromeda, merch brenin Ethiopia, i garreg yn llwybr yr anghenfil môr, Cetus, fe’i hachubwyd gan yr arwr Perseus a’i lladdodd drwy ddangos iddo ben torredig y Medusa. Roedd un golwg ar y pen erchyll hwnnw yn ddigon i droi unrhyw greadur yn garreg.
*Aquila – dyma’r eryr a gipiodd y bachgen Ganymede a’i gario i’r nefoedd at Zeus.
*Auriga – y cerbyd rhyfel. Yn cynrychioli Erichthonius, mab Fwlcan, a ddyfeisiodd y cerbyd rhyfel cynta.
*Bootes – ef yw’r aradrwr sy’n dilyn yr Aradr rownd pegwn y gogledd. Mewn chwedl arall ef yw’r heliwr a’i gŵn sy’n ymlid yr Arth Fawr (Ursa Major).
*Cepheus – ef oedd brenin Ethiopia, tad Andromeda, ac roedd yn un o’r Argonawtiaid aeth i gyrchu’r cnu aur. I’r Arabiaid mae’r cytser yn cynrychioli bugail a’i gi yn gwarchod gyrr o ddefaid, tra i’r Eifftiaid, Cheops, adeiladwr y pyramid mawr sydd yma.
*Cetus – dyma’r anghenfil a drowyd yn garreg gan Perseus. Fe’i cysylltir hefyd â Lefiathan Job, a’r morfil lyncodd Jona.
*Corvus – dyma’r frân achwynodd wrth Apollo am anffyddlondeb ei gariad Coronis.
*Cygnus – yr alarch. Cymerodd Iau ffurf yr aderyn hwn i gael ei ffordd efo Leda, gwraig brenin Sparta. I’r Arabiaid, eryr yn hedfan ydyw.
*Delphinius – hwn yw’r dolffin a gariodd y bardd a’r cerddor Arion ar ei gefn i ddiogelwch rhag ei elynion.
*Draco – y ddraig i’r Caldeaid, y Groegiaid a’r Rhufeiniaid, a’r aligetor yn yr India.
*Hercules – mab Iau, ac yn enwog am ei nerth yn cyflawni ei 12 tasg . Hwyliodd efo’r Argonawtiaid i ddwyn y cnu aur. Ym Mesopotamia cysylltid y cytser â’u duw haul.
*Hydra – sarff y dyfroedd. Roedd gan hon 9 pen ac os torrid un fe dyfai un arall yn ei le. Llwyddodd Hercules i’w lladd yn y diwedd. I’r Eifftiaid, yr Afon Nïl a gynrychiolir yma.
*Lacerta – y madfall. Cytser diweddar a ddiffiniwyd gan Hevelius yn 1690.
*Lepus – y sgwarnog. Am ei bod yn anifail yr hoffai Orion (yr Heliwr) ei hela, fe’i gosodwyd rhyngtho ef a’i gŵn – druan o’r sgwarnog! I’r Eifftiaid, cwch Osiris a gynrychiolir yma.
*Lyra – dyma’r delyn a grefftiwyd gan Hermes. Fe’i rhoddwyd gan Apollo yn rhodd i Orpheus a swynodd pob creadur â’i gerddi.
*Ophiuchus – y dyn a’r sarff. Yn Ewrop y Canoloesoedd: Moses a’r sarff ydoedd. I’r Grogiaid, Aesculapius, mab Apollo a thad meddygaeth yw’r dyn. Roedd o mor llwyddiannus yn cadw pobl yn fyw nes i Pluto, duw’r meirw, orchymyn ei ladd â tharanfollt!
*Pegasus – dyma’r ceffyl adeiniog a gododd o waed y Medusa erchyll. Fe’i dofwyd gan Neifion a’i rhoddodd i Bellerophon i’w gario i’r frwydr lle lladdodd yr anghenfil Chimera.
*Saggita – y saeth. Hefo hwn y lladdodd Hercules y fwltur oedd yn gwledda’n ddyddiol ar berfedd Prometheus a oedd wedi ei glymu ar glogwyn ym mynyddoedd y Cacasws. Dywed traddodiad arall mai hwn a saethwyd gan Apollo i ladd Cyclops ac fe’i cysylltwyd hefyd â saeth Cupid.
 
==Disgleirdeb y sêr==
 
Clyw, Asur! – Dy sêr clysion, - beth ydynt?
Bathodau angylion,
Neu lewyrch oddiar loywon
Lestri aur ym mhlasty’r Iôn. (Alafon)
 
Yn wahanol iawn i sêr y teledu, y sinema a’r meysydd chwarae, nodwedd amlycaf sêr y nos yw eu bod y mwyafrif ohonynt yn ymddangos yn ddigyfnewid dros amser mor faith. Wel, heblaw am ambell un sy’n amrywio’n gyfnodol yn ei disgleirdeb ac ambell siwpernofa, hynny yw. E’lla y byddai’n decach cymharu enwogion y cyfryngau â sêr gwib. Ac mi ddymunwn yr un diweddiad tanllyd i rai ohonyn nhw hefyd – yn enwedig y petha selebllyd afiach sy’n byw am ddim ond sylw gwirioniaid!
 
Mae’r miloedd o bwyntiau bychain o oleuni yr ydym ni yn eu hystyried yn sêr yn nhywyllwch y nos yn medru bod yn wahanol iawn eu natur. Soniais eisoes yn y gyfres hon am y sêr symudol, neu’r planedau (Llafar Gwlad 93-94, 95-101), tra bo eraill yn glystyrau serog sy’n edrych fel un (e.e. mae seren y ci, Sirius, yn seren ddwbwl) ac eraill yn alaethau sy’n cynnwys biliynnau o sêr yn araf gylchdroi am ei gilydd.
 
Gall sêr unigol amrywio yn eu disgleirdeb oherydd eu pellter a’u hoed. Yn naturiol disgwylir i’r rhai pellaf edrych yn llai ond hefyd mae eu hoed neu eu cyflwr yn gallu dylanwadu yn fawr ar eu hymddangosiad. Yn ystod ei bywyd gall seren tua maint ein haul ni newid yn raddol (dros tua 10 biliwn o flynyddoedd) o un fechan goch i un felyn fwy (cyflwr yr haul ar hyn o bryd) i gawr coch, cyn disgyn i mewn iddi ei hun i ffurfio yr hyn a elwir yn gorrach gwyn. Bydd seren fwy yn cynnyddu yn llawer iawn cynt, o fewn cyn lleied a 100 miliwn neu lai o flynyddoedd, i ffurfio cawr coch anferth fydd yn ffrwydro i greu siwpernofa, gan adael ar ei ôl un ai seren niwtron fechan neu, os oedd yn seren fawr iawn, gall greu ‘twll du’.
 
===Y Sêr amlycaf===
Mae rhai sêr amlwg wedi creu digon o argraff i gael eu henwi, un ai ar ôl bodau mytholegol neu am fod iddynt rhyw briodwedd benodol fel arfer. Isod rhestrir rhai o’r sêr amlycaf yn yr awyr ac un neu ddwy o rai eraill sy’n haeddu ein sylw:
*Aldebaran – y seren fawr oren hon sy’n nodi llygad y tarw yng nghytser y tarw, Taurus. Mae ei henw (o’r Arabeg) yn golygu ‘yr un sy’n dilyn’ am ei bod fel petae’n dilyn y sosban fach, neu’r Pleiades.
*Alpha Centauti – y drydedd seren ddisgleiriaf yn yr awyr a’r ail agosaf atom o ran pellter (dim ond 4.37 blwyddyn oleuni oddiwrthym). Gorwedda yng nghytser y Sentawr, yr hanner dyn hanner ceffyl a anafwyd gan Hercules. Oherwydd anfarwoldeb y Sentawr byddai’n sicr o deimlo poen i dragwyddoldeb, felly trugarhaodd Zeus wrtho a gadael iddo farw a’i ddyrchafu i’r sêr. Cyfeirir yn aml ati gan awduron ffuglen wyddonol am ryw reswm, ond rhaid mynd yn o bell i’w gweld – mae’n weddol agos i Groes y De.
*Altair – seren wen amlwg, a’r ddisgleiriaf yng nghytser yr Eryr sy’n gorwedd ar draws y Llwybr Llaethog rhwng yr Alarch a Saggitarius.
*Antares – i’r Rhufeiniaid roedd y seren fawr goch hon yn cynrychioli calon y sgorpion yng nghytser Scorpius. Ystyriai’r Persiaid hi yn warchodwr y nefoedd, tra yn Tsieina roedd ei llewyrch coch yn cynrychioli’r tân yng nghalon y ddraig.
*Arcturus – seren fawr oren a’r bedwaredd fwyaf disglair. I’w chanfod yng nghytser Bootes, y bugail.
*Bellatrix – yng nghongl uchaf dde yr Heliwr ac yn cynrychioli ei ysgwydd chwith.
*Betelgeuse – yng nghongl uchaf chwith yr Heliwr, yn cynrychioli ei ysgwydd dde. Mae’n seren gyfnewidiol, gochaidd ei lliw, sy’n cynnyddu a gostwng yn ei disgleirdeb yn sylweddol dros gyfnod o bron 7 mlynedd.
*Capella – un felen yng nghytser Auriga y gyrrwr chariot. Mae Auriga yn cario gafres ar ei gefn (sef Capella) a dau neu dri mynn gafr ar ei fraich.
*Galaeth Andromeda – neu gwrthrych M31 o fewn Cytser Andromeda. Dyma un o’r galaethau agosaf atom ac yn debyg iawn ond ychydig bach yn fwy na’n galaeth ni – y llwybr llaethog. Fe’i canfyddwyd gan Edwin Hubble yn 1924 a hi oedd yr alaeth gyntaf i gael ei hadnabod y tu draw i’r llwybr llaethog. Hi hefyd yw un o’r gwrthrychau pellaf sy’n weladwy â llygad noeth.
*Pollux a Castor – y sêr mwyaf disglair yng nghytser yr Efeilliaid (Gemini), deorwyd Pollux a Castor o ŵy wedi i Leda eu mam gael ei threisio gan Zeus. Aeth yr efeilliaid hefo Jason i gyrchu’r cnu aur ac am iddynt achub y llong Argo rhag suddo mewn storm maent yn cael eu parchu gan forwyr hyd heddiw.
*Procyon – seren fawr felen hardd sy’n ganolbwynt i’r ci bach, Canis Minor, sy’n dilyn yr Heliwr (Orion).
*Proxima Centauri – yng nghytser y Sentawr. Nid hon yw’r ddisgleiriaf o bell ffordd, rhaid cael telescôp i’w gweld, ond hi yw’r seren agosaf atom ar ôl yr haul. Gorwedda 4.24 blwyddyn oleuni oddiwrthym yn agos at groes y de.
*Rigel – un wen, â’i henw’n tarddu o’r Arabeg am droed. Cynrychiola droed chwith yr Heliwr.
 
*Seren Bethlehem – mae cryn ddadlau os oedd y fath seren yn bodoli. Nid oes cofnod o gwbwl gan seryddwyr Tsieina, India na Ewrop am ymddanghosiad seren lachar newydd na seren gynffon chwaith 2,000 o flynyddoedd yn ôl fel a ddisgrifir yn y Beibl. Ond, ar gyfnod tybiedig genedigaeth yr Iesu daeth Iau (sy’n cynrychioli bernin) i orgyffwrdd â Sadwrn (yn cynrychioli cyfiawnder) yng nghytser Pisces (yn cynrychioli yr Iddewon). I’r astrolegwyr byddai hyn yn arwyddo genedigaeth brenin fyddai’n dod a chyfiawnder i’r Iddewon ac yn gwireddu proffwydoliaeth o’r Hen Destament (Numeri 24, 17): ‘daw seren o Jacob, a chyfyd teyrnwialen o Israel...’. Y dehongliad astrolegol hwn oedd wedi cynhyrfu’r hen Herod mae’n amlwg.
 
*Seren y ci (Sirius) – un wreichionllyd ac amryliw, a’r fwyaf disglair o’r sêr i gyd. Byddai ei hymddangosiad uwchben y gorwel yn nodi cychwyn tymor amaethyddol y dwyrain canol. Yng Nghymru gelwir y dyddiau pan ddaw i’w hanterth ganol haf yn ‘ddyddiau’r cŵn’.
 
*Seren y Gogledd (Polaris) – un o’r sêr mwyaf adnabyddus, yn aros yn ei hunfan tra bo’r sêr eraill yn cylchdroi’n araf rownd y ffurfafen yn ystod y nos. Am ei bod mor sefydlog rhoddodd gyfeiriad i forwyr a theithwyr dros y canrifoedd:
 
:Seren wir deg, llusern ar dŵr – y nen,
: Siriola nos gwyliwr:
: Mynegfys ar ddyrys ddŵr,
: O law angel i longwr. (Morwyllt)
 
:Llusern wyt uwch holl sêr nos – am arwain
: Morwyr yn y cyfnos:
: Mirain dy liw, morwyn dlos
: Yn nôr y Pwnc yn aros. (Carnelian)
 
Un o enwau eraill seren y gogledd yw "seren y morwyr".
 
*Spica – seren wen ddisglair yn cynrychioli ysgyb o wenith yn llaw y Forwyn (Virgo)
 
*Vega – seren las ddisglair iawn yng nghongl uchaf y gytser fechan Lyra neu’r ‘delyn’. Rhoddwyd y delyn gan Apollo i’w fab Orpheus a oedd yn ei chanu mor hyfryd nes y cawsai anifeiliaid gwylltion eu swyno.