Zonia Bowen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
B →‎top: clean up
Llinell 1:
Awdures a rhydd-feddylwraig yw '''Zonia Margarita Bowen''' (née '''North'''; ganed [[23 Ebrill]] [[1926]] yn [[Ormesby St Margaret with Scratby|Ormesby St. Margaret]], [[Norfolk]], Lloegr). Sefydlodd y mudiad [[Merched y Wawr]] yn [[1967]], gyda chymorth Sulwen Davies a chriw o ferched [[Sefydliad y Merched]] o'r [[Parc]], [[y Bala]]. Er bod rhan fwyaf o ddigwyddiadau Sefydliad y Merched yn yr ardaloedd yma yn digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg nid oedd y sefydliad yn cydnabod y Gymraeg yn eu dogfennau ysgrifenedig a'u nwyddau. <ref>''Dy bobl di fydd fy mhobl i''; [[Gwasg y Lolfa]], 2015 - hunangofiant Zonia Bowen<name=":0"/ref>
 
Astudiodd [[Ffrangeg]] ym [[Prifysgol Bangor|Mhrifysgol Bangor]] lle sylweddolodd fod "pob duw a phob crefydd yn ffrwyth dychymyg"; geilw ei hun yn 'rhydd-feddylwraig' (''free-thinker'') yn hytrach nag 'anffydwraig' neu 'ddyneiddwraig'. Bu'n briod â'r Prifardd [[Geraint Bowen]]. Roedd ei gwr yn Archdderwydd o 1978 -1981 ac ef rhoddodd yr enw i Fudiad [[Merched y Wawr|Merched y Wawr.]] .
 
Yn wreiddiol o [[Heckmondwike]], [[Swydd Efrog]], bu'n byw am flynyddoedd ger [[Llyn Talyllyn]], ac mae bellach yn byw yng Nghae Athro ger [[Caernarfon]]. Yn 2015 cyhoeddodd hunangofiant, lle mae hi'n son am sefydlu Mercher y Wawr,<ref>[http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/31042109?ns_mchannel=social&ns_campaign=bbc_cymru&ns_source=twitter&ns_linkname=wales Gwefan [[Cymru Fyw]], y BBC;] adalwyd 5 Chwefror 2015</ref> a pham yr ymddiswyddodd fel Llywydd y mudiad wedi deng mlynedd fel swyddog o'r mudiad. Dywedodd wrth ei sefydlu na ddylai'r mudiad fod ag unrhyw gysylltiad chrefydd na gwleidyddiaeth "ond ei fod ar agor i bawb, ar yr un termau" a derbyniwyd hynny gan aelodau'r Cyngor Cenedlaethol. Disgrifiwyd y mudiad o'r cychwyn fel 'mudiad seciwlar'.