Zonia Bowen
Awdures a rhydd-feddylwraig yw Zonia Margarita Bowen (née North; ganed 23 Ebrill 1926 yn Ormesby St. Margaret, Norfolk, Lloegr). Sefydlodd y mudiad Merched y Wawr yn 1967, gyda chymorth Sylwen Davies a chriw o ferched Sefydliad y Merched o'r Parc, y Bala. Er bod y rhan fwyaf o ddigwyddiadau Sefydliad y Merched ar y pryd yn yr ardaloedd yma yn digwydd trwy gyfrwng y Gymraeg nid oedd y sefydliad yn cydnabod y Gymraeg yn eu dogfennau ysgrifenedig a'u nwyddau.[1]
Zonia Bowen | |
---|---|
Ganwyd | Zonia North ![]() 23 Ebrill 1926 ![]() Ormesby St Margaret with Scratby ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Cymru ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgrifennwr ![]() |
Perthnasau | Gwilym Bowen Rhys ![]() |
Astudiodd Ffrangeg ym Mhrifysgol Bangorac yno dechreuodd ddysgu Cymraeg. Cred bod "pob duw a phob crefydd yn ffrwyth dychymyg"; geilw ei hun yn 'rhydd-feddylwraig' (free-thinker) yn ogystal ag 'anffydwraig' neu 'ddyneiddwraig'. Bu'n briod â'r Prifardd Geraint Bowen 1915-2011. Roedd ei gŵr yn Archdderwydd o 1978 -1981 ac ef awgrymodd yr enw i Fudiad Merched y Wawr.
Cafodd ei magu ynHeckmondwike, Swydd Efrog, bu'n byw am flynyddoedd ger Llyn Mwyngil, ac mae bellach yn byw yng Nghaeathro ger Caernarfon. Yn 2015 cyhoeddodd hunangofiant, lle mae hi'n sôn am sefydlu Merched y Wawr,[2] a pham yr ymddiswyddodd fel Llywydd wedi deng mlynedd fel swyddog o'r mudiad. Dywedodd wrth ei sefydlu na ddylai'r mudiad fod ag unrhyw gysylltiad â chrefydd na gwleidyddiaeth "ond ei fod ar agor i bawb, ar yr un termau" a derbyniwyd hynny gan aelodau'r Cyngor Cenedlaethol. Disgrifiwyd y mudiad o'r cychwyn fel 'mudiad seciwlar'.
Teulu golygu
Ganwyd pedwar o blant i Zonia a Geraint sef Rhys, Nia, Siân a Steffan. Ffurfiodd tri o'i hwyrion Y Bandana, prif grwp roc Y Selar yn 2017 ac mae cerddoriaeth yn gryf yng ngwaed y teulu gan bod Gwilym Bowen Rhys hefyd mewn grŵp gwerin poblogaidd o'r enw Plu gyda'i chwiorydd Elan a Marged.[1][1]
Llyfryddiaeth golygu
Ymhlith ei llyfrau y mae:
- Dy bobl di fydd fy mhobl i; Gwasg y Lolfa, 2015 - hunangofiant Zonia Bowen
- Traed ar y ddaear; CAA, 1995
- Yec'hed Mat - Iechyd Da! Cyhoeddwyd gan Gwasg y Lolfa, Rhagfyr 1980
- Y dyddiau cynnar; Llyfrau'r Faner, ar ran Merched y Wawr, 1977
- Llydaweg i'r Cymro; Llyfrau'r Faner, 1977
- Merched y Wawr; Llyfrau'r Faner, ar ran Merched y Wawr, 1977
Cyfeiriadau golygu
Dolenni allanol golygu
- Llyfrgell Genedlaethol Cymru:Papurau Zonia M. Bowen (Merched y Wawr) ar wefan Archif Cymru