Tŵr Babel: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 63 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q41213 (translate me)
B →‎top: clean up
Llinell 1:
[[Delwedd:Confusion of Tongues.png|250px|bawd|Tŵr Babel: "Cymysgu'r Ieithoedd", darlun gan [[Gustave Doré]]]]
[[Tŵr]] uchel anferth a godwyd ym [[Mesopotamia]], yn ôl yr hanes a geir yn yr [[Hen Destament]], oedd '''Tŵr Babel'''. Fel un o [[mytholeg|chwedlau]] mwyaf cyfarwydd y [[Gristnogaeth]], mae'n ymgais i esbonio'r ffaith fod nifer o wahanol ieithoedd yn y byd. Yn symbolaidd, mae'n cynrychioli [[balchder]] a thraha dynolryw.
 
Ceir chwedl Tŵr Babel yn ''[[Llyfr Genesis]]'' yn yr Hen Destament ac yn y [[Torah]] Hebraeg. Roedd disgynyddion [[Noa]] (sef y Dynolryw) yn siarad yr un [[iaith]] yn gyffredin, ond yn eu balchder - ar anogaeth y brenin [[Nimrod]] yn ôl un fersiwn - penderfynasant godi tŵr a fyddai'n cyrraedd y nefoedd a dinas orwych. Enw'r ddinas honno oedd [[Babilon|Babel]] ([[Babilon]]), sy'n mwyseirio'r gair [[Hebraeg]] ''babel'', sef "drysu". Ond roedd [[Duw]] yr [[Hebreaid]] yn anfodlon ar y gwaith uchelgeisiol ac rhag ofn i bobl unedig yn siarad un iaith yn unig ddechrau ceisio efelychu ei waith Ef ei hun, parodd iddynt siarad ieithoedd eraill, yn ôl eu llwyth, a dryswyd y gwaith ar y tŵr, a adawyd heb ei orffen. Gwasgarodd y llwythau, am nad oeddent yn deall ei gilydd, a byth ers hynny mae'r ddynolryw wedi'i hymrannu.