Concwest yr Anialwch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 18fed ganrif18g using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 1:
[[Image:Mapa ARGENTINA 1881.png|bawd|dde|200px|Tiriogaeth yr Ariannin cyn i Julio Argentino Roca ddod yn Arlywydd.]]
 
'''Concwest yr Anialwch''' ([[Sbaeneg]]: ''La Conquista del Desierto'') neu '''Ymgyrch yr Anialwch''' (Sbaeneg: ''Campaña del Desierto'') yw'r enw a roddir i gyfres o ymgyrchoedd milwrol gan lywodraeth [[Ariannin]] yn erbyn llwythau brodorol y [[Mapuche]], [[Tehuelche]] a [[Ranquel]]. Y bwriad oedd ennill rheolaeth ar ardaloedd y [[Pampa]] a dwyrain [[Patagonia]], oedd ym meddiant y llwythau hyn. Pwnc dadleuol yw a ddylid ystyried yr ymgyrchoedd yn [[hil-laddiad]].
 
Dechreuodd yr ymgyrchoedd tua diwedd y [[18g]] gydag ymosodiadau ar diriogaethau y Ranquel. Rhwng [[1820]] a [[1824]], bu tair ymgyrch yn nhalaith Buenos Aires dan y cadfridog [[Martín Rodríguez]]. Rhwng [[1826]] a [[1827]] bu tair ymgyrch arall dan [[Federico Rauch]], ond yn 1829 lladdwyd ef gan y ''cacique'' [[Arbolito]] ym mrwydr Vizcacheras. Yn raddol, gwthiwyd y ffin ymhellach i'r de.
 
Yn [[1877]], enwyd [[Julio Argentino Roca]] yn Weinidog dros Ryfel, a daeth i'r casgliad mai'r unig ddull o ddeilio a'r brodorion oedd eu lladd neu eu gyrru o'u tiroedd. Pasiwyd deddf i ymestyn y ffin hyd afonydd Negro, Neuquén ac Agrio. Dechreuodd y gyfres gyntaf o ymgyrchoedd yn niwedd [[1878]]. Yn Ebrill [[1879]] dechreuodd yr ail gyfres o ymgyrchoedd, gyda 6,000 o filwyr, gan gyrraedd [[Choele Choel]] ac yna ymlaen at yr Afon Negro a'r Afon Neuquén.
 
Pan ddaeth Roca yn Arlywydd, aeth yr ymgyrchoedd yn eu blaenau dan y cadfridog Villegas. Cyrhaeddodd 100 o filwyr dan Lino Oris de Roa ran isaf [[Afon Camwy|Dyffryn Camwy]] ac wedi brwydr ar [[18 Hydref]] [[1884]], ildiodd y ddau ''cacique'' olaf, Inacayal a [[Foyel]] i fyddin dan Miguel Vidal. Cymerwyd llawer o'r brododrion yn garcharorion, a'u cadw mewn gwersylloedd. Dywedir i dros fil o'r brodorion gael eu lladd ac i 10,539 o wragedd a phlant a 2,320 o ryfelwyr gael eu cymeryd yn garcharorion. Gyrrwyd y gweddill i rannau lleiaf ffrwythlon