Concwest yr Anialwch
Concwest yr Anialwch (Sbaeneg: La Conquista del Desierto) neu Ymgyrch yr Anialwch (Sbaeneg: Campaña del Desierto) yw'r enw a roddir i gyfres o ymgyrchoedd milwrol gan lywodraeth Ariannin yn erbyn llwythau brodorol y Mapuche, Tehuelche a Ranquel. Y bwriad oedd ennill rheolaeth ar ardaloedd y Pampa a dwyrain Patagonia, oedd ym meddiant y llwythau hyn. Pwnc dadleuol yw a ddylid ystyried yr ymgyrchoedd yn hil-laddiad.
Dechreuodd yr ymgyrchoedd tua diwedd y 18g gydag ymosodiadau ar diriogaethau y Ranquel. Rhwng 1820 a 1824, bu tair ymgyrch yn nhalaith Buenos Aires dan y cadfridog Martín Rodríguez. Rhwng 1826 a 1827 bu tair ymgyrch arall dan Federico Rauch, ond yn 1829 lladdwyd ef gan y cacique Arbolito ym mrwydr Vizcacheras. Yn raddol, gwthiwyd y ffin ymhellach i'r de.
Yn 1877, enwyd Julio Argentino Roca yn Weinidog dros Ryfel, a daeth i'r casgliad mai'r unig ddull o ddeilio a'r brodorion oedd eu lladd neu eu gyrru o'u tiroedd. Pasiwyd deddf i ymestyn y ffin hyd afonydd Negro, Neuquén ac Agrio. Dechreuodd y gyfres gyntaf o ymgyrchoedd yn niwedd 1878. Yn Ebrill 1879 dechreuodd yr ail gyfres o ymgyrchoedd, gyda 6,000 o filwyr, gan gyrraedd Choele Choel ac yna ymlaen at yr Afon Negro a'r Afon Neuquén.
Pan ddaeth Roca yn Arlywydd, aeth yr ymgyrchoedd yn eu blaenau dan y cadfridog Villegas. Cyrhaeddodd 100 o filwyr dan Lino Oris de Roa ran isaf Dyffryn Camwy ac wedi brwydr ar 18 Hydref 1884, ildiodd y ddau cacique olaf, Inacayal a Foyel i fyddin dan Miguel Vidal. Cymerwyd llawer o'r brododrion yn garcharorion, a'u cadw mewn gwersylloedd. Dywedir i dros fil o'r brodorion gael eu lladd ac i 10,539 o wragedd a phlant a 2,320 o ryfelwyr gael eu cymryd yn garcharorion. Gyrrwyd y gweddill i rannau lleiaf ffrwythlon Patagonia.