Cwmni Masnachol Camwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 20fed ganrif20g, [[File: → [[Delwedd: using AWB
B →‎top: clean up
 
Llinell 1:
[[Delwedd:Compañía Mercantil del Chubut, suc. Trelew ca.1910.jpg|bawd|Cwmni Masnachol Camwy, Trelew.]]
[[Menter gydweithredol|Cwmni cydweithredol]] a sefydlwyd gan yr ymfudwyr Cymreig i'r [[Y Wladfa|Wladfa]] oedd '''Cwmni Masnachol Camwy''' ([[Sbaeneg]]: '''Compañía Mercantil de Chubut'''), cyfeirir ato'n aml fel y CMC. Bu a rhan bwysig yn natblygiad y Wladfa.
 
Sefydlwyd y cwmni yn [[1885]]; hwn yn ôl pob tebyg oedd y cwmni cydweithredol cyntaf o'i fath yn [[yr Ariannin]]. Yn 1888 sefydlwyd pencadlys y cwmni yn nhref newydd [[Trelew]]. Roedd y cwmni yn gyfrifol am werthu cynnyrch y Wladfa yn [[Buenos Aires]] a thu draw.
 
Tua dechrau'r [[20g]] roedd [[Llwyd ap Iwan]], mab Michael D. Jones, yn gyfrifol am gangen Rhyd y Pysgod (Arroyo Pescado) o'r ''Compañía Mercantil del Chubut'', tua 30 km o [[Esquel]]. Ar [[29 Rhagfyr]] [[1909]], daeth dau fandit Americanaidd o'r enw Wilson ac Evans, a saethwyd Llwyd ap Iwan yn farw wrth iddynt geisio dwyn arian oddi yno.
 
Torrodd y cwmni yn ystod [[y Dirwasgiad Mawr]], a chollodd llawer o'r gwladfawyr symiau sylweddol o arian.