20fed ganrif

canrif
(Ailgyfeiriad o 20g)

Yn ystod yr 20g bu newidiadau pellgyrhaeddol a thrawsnewidiol yn hanes y byd. Cafwyd nifer o ddigwyddiadau pwysig a newidiodd y byd am byth, gan gynnwys y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd, twf pŵer niwclear, teithiau i’r gofod, twf cenedlaetholdeb a gwledydd yn dod yn annibynnol o drefedigaethau, y Rhyfel Oer, datblygiadau mewn trafnidiaeth a thechnoleg cyfathrebu, twf enfawr yn y boblogaeth ledled y byd, ymwybyddiaeth o ddirywiad yn amgylchedd ac ecoleg y byd, a’r Chwyldro Digidol.  Roedd yn gyfnod lle gwelwyd cynnydd a datblygiad ar raddfa gyflym, yn enwedig ym meysydd technoleg feddygol. Cafwyd darganfyddiadau geneteg a oedd yn trawsnewid hanes y ddynoliaeth ac fe wnaeth y defnydd o gyfrifiaduron weddnewid bywyd ar draws y byd.

Adnoddau Dysgu
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma
CBAC
Datblygu Rhyfela
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg

Rhyfeloedd a Gwleidyddiaeth golygu

Bu farw miliynau o bobl yn ystod y ganrif ar raddfa na welwyd erioed mo’i debyg. Achoswyd y marwolaethau hyn gan ryfeloedd, hil-laddiad, cyfundrefnau gwleidyddol, milwrol ac unbenaethol a llofruddiaethau ar raddfa eang. Amcangyfrifir bod rhwng 50 ac 80 miliwn wedi marw oherwydd sgil effeithiau'r ddau ryfel byd yn unig. Amcangyfrifir bod 70 miliwn o Ewropeaid wedi marw oherwydd rhyfel, trais a newyn rhwng 1914 a 1945.

Gwelodd yr 20g ddau ryfel diarbed byd-eang rhwng arch-bwerau’r byd. Gwasgarwyd meysydd ymladd y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd ar draws cyfandiroedd a moroedd ledled y byd. Roedd hon yn ganrif lle gwelwyd twf cenedlaetholdeb mewn gwahanol wledydd, gyda gwledydd yn hawlio hunanlywodraeth, a phan gafodd ymerodraethau eu chwalu. Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf cafodd ymerodraethau Otoman ac Awstria-Hwngari eu diddymu, diorseddwyd Tsar Nicholas II gan y Chwyldro Rwsiaidd yn 1917 a chafodd y wladwriaeth Gomiwnyddol gyntaf ei sefydlu yn Rwsia.

 
Cafodd drylliau awtomatig eu defnyddio ar raddfa fawr am y try cyntaf yn y Rhyfel Byd Cyntaf a arweiniodd at nifer fawr o anafusion

Dynododd y Rhyfel Byd Cyntaf drobwynt o ran dulliau rhyfela. Achosodd datblygiadau technolegol newidiadau mawr yn y ffordd roedd rhyfel yn cael ei ymladd a sut roedd yn effeithio ar sifiliaid. Defnyddiwyd dyfeisiadau newydd fel y tanc, arfau cemegol fel clorin a nwy mwstard, llongau tanfor, a chyflwynwyd awyrennau i faes y gad yn ystod hanner cyntaf yr 20g.  Achosodd y rhain newidiadau yn nhactegau ymladd rhyfeloedd modern. Nododd y defnydd o arfau niwclear yn Hiroshima a Nagasaki yn Awst 1945 gychwyn cyfnod newid o ryfela modern.

Bu rhyfeloedd cartref mewn llawer o wledydd. Bu rhyfel cartref treisgar yn Sbaen yn 1936 pan arweiniodd y Cadfridog Franco wrthryfel yn erbyn Ail Weriniaeth Sbaen, sef y llywodraeth ddemocrataidd a fu’n rheoli’r wlad rhwng 1931 a 1939. Gwelwyd y gwrthryfel fel arwydd o’r tensiynau cynyddol oedd yn Ewrop cyn cychwyn yr Ail Ryfel Byd. Bu Dirwasgiad Mawr y 1930au yn ffactor pwysig a arweiniodd at dwf ym mhoblogrwydd Ffasgaeth a Natsïaeth yn Ewrop.

Effeithiodd yr Ail Ryfel Byd (1939-1945) ar Ddwyrain Asia a’r Cefnfor tawel oherwydd ymosodiad Siapan yn erbyn Tseina a’r Unol Daleithiau. Cafodd sifiliaid eu heffeithio yn llawer mwy yn ystod yr Ail Ryfel Byd oherwydd bomio o’r awyr ar ardaloedd poblog fel dinasoedd a threfi gan y ddwy ochr, er enghraifft, Brwydr Prydain a’r Blitz gan yr Almaen yn erbyn Prydain a’r dacteg bomio carped a ddefnyddiwyd gan Brydain ar ddinasoedd fel Dresden, Cologne a Berlin yn yr Almaen; a hil-laddiad yr Iddewon gan yr Almaen, sef yr Holocost.

Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, gwelwyd sefydlu Comiwnyddiaeth fel cyfundrefn wleidyddol mewn llawer o wledydd ar draws y byd.  Yn sgil y Chwyldro Comiwnyddol yn Rwsia yn 1917 llofruddiwyd teulu brenhinol y Romanovs gan y Bolsieficiaid a chrëwyd llywodraeth Gomiwnyddol newydd o dan arweinyddiaeth Vladimir Lenin.  Roedd 300 mlynedd o deyrnasiad brenhinol wedi dod i ben ac yn lle hynny crëwyd gwladwriaeth Gomiwnyddol gyntaf y byd. Ar ôl rôl yr Undeb Sofietaidd yn yr Ail Ryfel Byd, daeth comiwnyddiaeth yn bŵer pwysig mewn gwleidyddiaeth fyd-eang. Sefydlwyd llywodraethau comiwnyddol, er enghraifft yn Nwyrain Ewrop (er enghraifft, Hwngari, Dwyrain yr Almaen, Rwmania), Tseina, Indo-Tsieina, a Chiwba. Roedd gan Gomiwnyddiaeth bŵer absoliwt, bron, yn llawer o’r gwledydd a’r ardaloedd hyn.

 
Gollwng y ddau fom atomig ar Siapan

Trechwyd yr Almaen yn 1945 wedi iddi gael ei goresgyn gan yr Undeb Sofietaidd a Gwlad Pwyl o gyfeiriad y dwyrain a’r Unol Daleithiau, Prydain, Canada a Ffrainc o’r gorllewin.  Wedi buddugoliaeth y Cynghreiriaid yn Ewrop daeth y rhyfel yn Asia yn erbyn Siapan i ben yn sgil gollwng dau fom atomig gan yr Unol Daleithiau ar Hiroshima a Nagasaki. Ar ôl y rhyfel rhannwyd yr Almaen rhwng y Pwerau Gorllewinol a’r Undeb Sofietaidd.

O hynny ymlaen daeth Dwyrain yr Almaen a gweddill gwledydd dwyrain Ewrop yn llywodraethau Comiwnyddol. Yng Ngorllewin yr Almaen sefydlwyd llywodraeth ddemocrataidd debyg i’r gwledydd gorllewinol. Ail-adeiladwyd gorllewin Ewrop gyda chymorth ariannol Cynllun Marshall America ac felly daeth America yn gyfaill agos i’r gorllewin.

 
Sifiliad benywaidd o Fietnam, tua 1967. Gan y ffotograffydd Cymraeg Phillip Jones Griffiths

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd trodd y cydweithio rhwng yr Unol Daleithiau a’r Undeb Sofietaidd yn berthynas fwy gelyniaethus a drwgdybus. Dyma gyfnod y Rhyfel Oer. Roedd yn ffactor yn achosi’r rhyfeloedd yng ngwledydd Corea (1950-53) a Fietnam (1957-1975).

Cynrychiolai’r ddau arch-bwer syniadau gwleidyddol gwahanol rhwng cyfalafiaeth a democratiaeth, a chafodd Ewrop ei rhannu gan y Llen Haearn. Rhannwyd Berlin gan Fur Berlin oedd yn gwahanu’r rhanbarth gorllewinol, democrataidd oddi wrth y rhanbarth dwyreiniol, comiwnyddol.  Ffurfiodd y ddwy ochr gynghreiriau milwrol, sef NATO a Chytundeb Warsaw; datblygodd ras arfau gyda phwyslais ar ddatblygiad arfau niwclear a bu cystadleuaeth rhwng y ddau arch-bwer yn y ras i’r gofod.  

Dymchwelwyd Wal Berlin adeg Chwyldroadau 1989 yn Ewrop gan greu Almaen unedig yn 1990, a chwalodd yr Undeb Sofietaidd yn 1991. Roedd 1989 yn flwyddyn lle gwelwyd dymchwel llywodraethau comiwnyddol ar draws y byd. Chwalwyd llawer o’r llywodraethau comiwnyddol roedd yr Undeb Sofietaidd wedi eu cefnogi ar draws y byd heblaw am Tsiena, Gogledd Corea, Ciwba, Fietnam a Laos. Roedd Protestiadau Sgwâr Tiananmen yn 1989 yn brotestiadau treisgar lle lladdwyd cannoedd o brotestwyr yn Sgwâr Tiananmen, Beijing, Tseina mewn ymdrech i ddymchwel y llywodraeth gomiwnyddol.[1]

Methodd y Rhyfel Byd Cyntaf neu’r ‘rhyfel i orffen pob rhyfel’ sicrhau heddwch. Disgrifiwyd yr Ail Ryfel Byd fel busnes anorffenedig y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn dilyn y ddau ryfel byd ffurfiwyd Cynghrair y Cenhedloedd ac yna'r Cenhedloedd Unedig. Sefydlwyd Cynghrair y Cenhedloedd yn 1919 ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf ac yna disodlwyd ef gan y Cenhedloedd Unedig yn 1945 ar ôl yr Ail Ryfel Byd.[2] Roedd hwn yn fforwm rhyngwladol lle gallai gwledydd y byd drafod materion a oedd yn peryglu heddwch byd-eang; trafod materion diplomyddol, trafod canllawiau ynghylch rheolau rhyfel, sut i amddiffyn yr amgylchedd, sofraniaeth gwledydd a hawliau dynol. Roedd lluoedd cadw heddwch y Cenhedloedd Unedig (oedd yn cynnwys milwyr gwahanol aelodau’r Cenhedloedd Unedig) ac asiantaethau eraill y Cenhedloedd Unedig yn rhoi cymorth mewn gwahanol ardaloedd argyfyngus ar draws y byd.  Roeddent yn helpu i leihau newyn, afiechydon a thlodi. Methodd sefydliadau fel Cynghrair y Cenhedloedd a’i olynydd y Cenhedloedd Unedig ag atal rhyfeloedd. Ers 1945, fodd bynnag, does dim rhyfel wedi bod rhwng y pwerau mawr gan fod y syniad o Gyd–ddinistr Sicr (MAD: Mutually Assured Destruction) wedi llwyddo i atal rhyfel. Yn y cyfnod ar ôl 1945 mae 9 rhyfel o bob 10 wedi digwydd mewn gwledydd gwan, ansefydlog yn y Trydydd Byd.[3]

Arweiniodd mwy o gydweithrediad rhwng y gwledydd at ddatblygiad yr Undeb Ewropeaidd yn ystod y 1950au. Roedd hwn yn grŵp o wledydd yn Ewrop a oedd yn cydweithio yn wleidyddol, yn economaidd ac yn fasnachol.

 
Mahatma Gandhi

Roedd dulliau heddychlon Gandhi a’r mudiad i sicrhau annibyniaeth i India oddi ar Ymerodraeth Prydain yn ddylanwad mawr ar ddulliau protestio mudiadau gwleidyddol eraill ar draws y byd, er enghraifft, y Mudiad Hawliau Sifil yn America a’r mudiadau rhyddid yn ne Affrica a Burma. Bu mudiadau cenedlaetholgar yn bwysig yn yr ymgyrch i sicrhau annibyniaeth i India a Phakistan yn 1947. Yn y Dwyrain Canol yn 1948 crëwyd gwladwriaeth Iddewig newydd, Israel. Roedd chwalfa llawer o ymerodraethau wedi arwain at annibyniaeth i lawer o wledydd yn Affrica ac Asia.

Yn ystod y 1950au a’r 1960au heriodd y Mudiad Hawliau Sifil yn America dan arweiniad Martin Luther King a’r mudiad yn erbyn apartheid yn ne Affrica o dan arweiniad Nelson Mandela yr arwahanu hiliol a oedd yn digwydd yn y gwledydd hynny. Bu’n ymgyrch a barhaodd ar hyd gweddill y ganrif yn y ddwy wlad.  Un o’r cerrig milltir pwysig ym mrwydr de Affrica oedd ethol Nelson Mandela yn Arlywydd du cyntaf De Affrica rhwng 1994-1999.  Etholwyd ef yn yr etholiad democrataidd llawn cyntaf yn hanes de Affrica.

Bu farw degau o filiynau o daeogion Tsieineaidd rhwng 1959 a 1962 oherwydd Newyn Mawr Tsieina. Credir mai hwn oedd y newyn mwyaf yn hanes y ddynoliaeth.

Achosodd y Rhyfel Sofietaidd yn Affghanistan rhwng 1979 a 1989, dros filiwn o farwolaethau, ac roedd yn un o’r rhesymau pam chwalodd yr Undeb Sofietaidd.

Cerddoriaeth golygu

 
The Beatles oedd un o fandiau enwocaf yr 20fed ganrif

Daeth cerddoriaeth blues a jazz yn boblogaidd yn yr Unol Daleithiau yn ystod y 1910au a’r 1920au.

Yn y 1950au daeth Roc a Rôl yn boblogaidd yn yr Unol Daleithiau, a Jerry Lee Lewis ac Elvis Presley yn dod yn rhai o eiconau’r cyfnod. Yn ystod y 1960au daeth The Beatles yn fyd-enwog am eu caneuon poblogaidd wedi eu dylanwadu gan roc a rôl.[4]

O ganol yr 20g ymlaen daeth ‘roc a rôl’, cerddoriaeth werinol/roc, metal trwm a phync roc yn rhan o gerddoriaeth boblogaidd. Yn y 1980au a’r 1990au daeth hip hop yn boblogaidd.  Ar yr un adeg datblygwyd cerddoriaeth house, techno, reggae a soul. Dechreuwyd defnyddio syntheseiswyr mewn cerddoriaeth, gyda hynny'n trosi i gerddoriaeth boblogaidd yn y 1980au ar ffurf cerddoriaeth ‘new wave’.  Cafodd offerynnau electronig ddylanwad ar bob math o gerddoriaeth boblogaidd, ac arweiniodd hynny at ddyfeisio genres (mathau) newydd o gerddoriaeth, fel house, synthpop, cerddoriaeth dawns electronig a cherddoriaeth ddiwydiannol.[5]

Ffilm, theatr a theledu golygu

 
Poster ar gyfer 'The Jazz Singer' 1927

Cafodd ffilm ei greu fel cyfrwng artistig yn ystod yr 20g. Agorwyd y sinema gyntaf yn Pittsburgh yn 1905.

Datblygodd Hollywood yn Los Angeles i fod yn ganolfan ar gyfer y diwydiant ffilmiau. Tra bod y ffilmiau cyntaf yn rhai du a gwyn, erbyn y 1920au datblygwyd ‘Technicolor’ i greu ffilmiau lliw.  Rhyddhawyd y ffilm hir gyntaf gyda sain, sef The Jazz Singer, yn 1927. Sefydlwyd Gwobrau Academi yr Oscars yn 1929.

Datblygwyd animeiddio yn ystod y 1920au. Snow White and the Seven Dwarfs oedd y ffilm hir gyntaf wedi ei hanimeiddio. Rhyddhawyd y ffilm yn 1937. Datblygwyd CGI yn ystod y 1980au. Y ffilm hir CGI gyntaf gydag animeiddio yn rhan ohoni oedd Toy Story a ryddhawyd yn 1995.

Yn y theatr, daeth Broadway yn Efrog Newydd yn ganolfan bwysig yn fyd-eang ar gyfer awduron drama ac ar gyfer theatr gerddorol.  Cafodd gwaith awduron fel Arthur Miller a Tennessee Williams ei berfformio ar Broadway ac roedd cyfansoddwyr fel Rodgers and Hammerstein, Lerner and Loewe ac Irving Berlin yn ddylanwadau pwysig ar y diwydiant a’r diwylliant ffilm.[6]

Gemau Fideo golygu

Gyda datblygiadau technolegol mewn cyfrifiaduron ers yr Ail Ryfel Byd, crëwyd math newydd o adloniant yn yr 20g – sef y gêm fideo. Tra bod y syniad o gemau fideo wedi cael eu llunio yn ystod y 1940au a'r 50au, ni wnaeth gemau fideo ddatblygu fel diwydiant a busnes tan y 1970au.   Roedd hwn yn ffenomenon cymdeithasol a diwylliannol ac yn gychwyn ar oes aur gemau fideo arcêd – dyma’r cyfnod pan ryddhawyd Space Invaders gan Taito, Asteroids gan Atari a Pac-Man gan Namco.

Cafodd cwmni Nintendo lwyddiant ysgubol gyda gwerthiant gêm Super Mario Bros ar draws y byd. Yn ystod y 1990au rhyddhawyd pecyn gêm fideo PlayStation gan Sony gyda gwerthiant yn cyrraedd 100 miliwn. Roedd gemau fideo mor boblogaidd fel bod y diwydiant wedi creu swyddi newydd - er enghraifft, cynllunwyr gemau fideo.

Celf a Phensaernïaeth golygu

 
Roedd datblygiadau mawr yn y byd celf yn ystod yr 20fed Ganrif. Juan Gris, Bywyd llonydd gyda Bowlen o Ffrwythau a Mandolin, 1919.

Datblygodd ffurfiau a steiliau newydd o gelfyddyd fel Mynegiadaeth (Saesneg:Expressionism), Dada (Saesneg:Dadaism), Ciwbiaeth (Saesneg:Cubism), Swrealaeth, (Seasneg:Surrealism), Celf bop (Saesneg:Pop Art) a chelf gysyniadaol (Saesneg:Conceptual art). Roedd y syniadau newydd hyn yn bwysig yn natblygiad Moderniaeth.

Yn Ewrop, datblygodd pensaernïaeth fodern mewn ffurf wahanol iawn i steiliau addurniadol oes Fictoria. Roedd datblygiadau mewn defnyddiau adeiladu a thechnoleg yn golygu bod ffurfiau newydd o bensaerniaeth fwy syth ac onglog yn bosibl.[7]

Mathemateg golygu

Datblygwyd meysydd newydd o fathemateg yn yr 20g.  Yn ystod hanner cyntaf yr 20g lluniwyd theori mesur, dadansoddiad swyddogaethol (Saesneg:functional analysis), a thopoleg (Saesneg:topology).  Bu datblygiadau pwysig hefyd mewn meysydd fel algebra haniaethol, a syniadau tebygolrwydd (Saesneg:probability).

Yn nes ymlaen yn y ganrif, fe wnaeth datblygiad cyfrifiaduron arwain at greu theori gyfrifiadurol. Dyma’r ganrif pan wnaeth Alan Turing ddod i’r amlwg fel un o benseiri gwyddoniaeth gyfrifiadurol.

Chwaraeon golygu

Yn yr ugeinfed ganrif, daeth chwaraeon yn weithgaredd hamdden boblogaidd a hefyd yn fath o adloniant, yn enwedig ar y teledu. Cynhaliwyd y Gemau Olympaidd modern cyntaf yn 1896 a daeth yn un o ddigwyddiadau chwaraeon pwysicaf yr oes fodern. Cynhaliwyd Cwpan y Byd FIFA am y tro cyntaf yn 1930, ac fe'i cynhaliwyd bob 4 mlynedd ar ôl yr Ail Ryfel Byd.  Dyma’r ganrif a welodd ddechrau Cwpan Rygbi'r Byd a llu eraill o dwrneimantau chwaraeon byd-eang yn cael eu darlledu.[8]

Ffiseg golygu

Yn ystod hanner cyntaf y ganrif datblygwyd meysydd newydd o ffiseg, fel perthynoledd arbennig, perthynoledd cyffredinol a mecaneg cwantwm. Drwy astudio’r meysydd hyn ym maes ffiseg cafwyd gwell dealltwriaeth o strwythur yr atom.  Roedd y ffisegwr Albert Einstein yn hollbwysig yn profi ei bod hi’n bosibl rhannu atom.

Darganfuwyd adweithiau niwclear, ac yn arbennig ymasiad niwclear.  Roedd y ddeubeth hyn yn allweddol i ddeall gwreiddiau egni'r haul.

Darganfuwyd dyddio radiocarbon, a ddaeth yn dechneg bwerus a chywir wrth benderfynu oedran anifeiliaid a phlanhigion cynhanesyddol, ac arteffactau ac eitemau hanesyddol.

Seryddiaeth golygu

 
Cysawd yr Haul

Datblygwyd dealltwriaeth well o sut oedd y bydysawd wedi datblygu a beth oedd ei oedran. Amcangyfrifwyd ei fod tua 13.8 biliwn o flynyddoedd. Cyflwynwyd Damcaniaeth y Glec Fawr a oedd yn cynnig syniadau ynghylch sut oedd y byd wedi dod i fodolaeth. Cafodd y syniad hwn ei dderbyn yn gyffredinol.[9]

Daeth seryddwyr i gasgliadau mwy pendant ynghylch oedran Cysawd yr Haul, gan gynnwys y Ddaear. Roedd y ddaear yn llawer hynach na'r hyn a gredwyd ynghynt – mae ei hoedran tua 4 biliwn o flynyddoedd yn hytrach na’r 20 miliwn o flynyddoedd a grybwyllwyd gan seryddwyr blaenorol.

Dechreuwyd arsylwi planedau Cysawd yr Haul a’r lleuadau yn llawer mwy manwl drwy ddefnyddio chwiliedyddion gofod.  Darganfuwyd y blaned Plwton yn 1930 ar gyrion Cysawd yr Haul, ond cafodd ei hail-gategoreiddio ar ddechrau'r 21ain ganrif fel ‘plutoid’ yn hytrach na phlaned go iawn. Golyga hyn mai dim ond 8 planed sydd yng Nghysawd yr Haul.

Bioleg golygu

Gwnaed cynnydd pwysig ym maes geneteg a phwysigrwydd gwyddonol y maes hwnnw. Yn 1953 cyhoeddodd James Watson, Francis Crick, Rosalind Franklin a Maurice Wilkins eu darganfyddiad bod gan DNA strwythur pendant. Bu hyn o gymorth mawr wrth ddatblygu technegau a fyddai’n medru darllen dilyniant DNA (DNA sequences) ac a arweiniodd at Brosiect Genom Dynol (Saesneg:Human Genome Project) fel y bu modd clonio mamal am y tro cyntaf yn 1996.

Meddygaeth golygu

 
Plentyn yn dioddef o'r frech wen

Darganfuwyd penisilin gan Alexander Fleming yn 1928. Roedd darganfyddiad Gwrthfiotig tebyg i hyn yn gweddnewid y byd meddygaeth modern. Byddai Gwrthfiotig yn arf pwysig wrth leihau marwolaethau oherwydd afiechydon bacteriol.

Datblygwyd brechiad ar gyfer Poliomyelitis. Datblygwyd brechiadau effeithiol ar gyfer nifer o afiechydon heintus eraill, gan gynnwys y ffliw, Melyn mannog, y pâs, tetanws, y frech goch, clwy’r pennau (mumps), brech ieir, hepatitis A a hepatitis B.  Arweiniodd mwy o ymchwil ym maes brechiadau at ddileu feirws y frech wen yn gyfan gwbl mewn pobl.  Mae brechiadau, gwell safonau glendid a chyflenwadau dŵr glân wedi lleihau achosion marwolaethau, yn enwedig ymhlith babanod a phlant.

Sefydlwyd y clinig atal cenhedlu cyntaf ym Mhrydain gan Marie Stopes yn 1920.  Bu datblygiadau ym maes dulliau atal cenhedlu yn hollbwysig o ran lleihau twf ym mhoblogaeth gwledydd diwydiannol y byd.

 
pelydr-x o ben-glin dynol

Bu darganfyddiad inswlin meddygol yn ystod y 1920au yn bwysig o ran gwella disgwyliadau oedran cleifion diabetig gymaint â thair gwaith.

Daeth pelydr-X yn rhan bwysig o wneud diagnosis wrth drin cleifion – o dorri asgwrn i ganser. O’r 1960au ymlaen datblygwyd offer diagnostig eraill, er enghraifft, sonograffi, ac o’r 1970au ymlaen defnyddiwyd MRI (magnetic resonance imaging).

Yn ystod y 1950au profodd ymchwil bod cysylltiad uniongyrchol rhwng ysmygu tybaco a chanser. Datblygwyd dulliau newydd o drin canser, er enghraifft, cemotherapi, therapi ymbelydrol ac imiwnotherapi. O ganlyniad roedd modd gwella’n llwyr o ganser neu wella am ysbaid.

Dechreuwyd categoreiddio gwaed a sefydlwyd banciau gwaed. Golygai hyn bod trawsarllwysiad gwaed yn fwy diogel ac yn dod yn fwy cyffredin. Cynhaliwyd y trawsblaniad calon cyntaf lle llwyddwyd i ddod â'r claf yn ôl yn ymwybodol yn 1967 gan Dr Christiaan Barnard. Bu dyfeisiadau a datblygiadau mewn meddyginiaethau gwrthimiwnaidd a sut roedd meinwe yn cael ei gategoreiddio, a golygodd hynny bod trawsblaniadau organau a meinwe yn dod yn fwy cyffredin. Datblygwyd triniaethau newydd ar gyfer llawdriniaethau ar y galon – er enghraifft, datblygu amseriaduron calon a chalonnau artiffisial.

Afiechydon golygu

Lladdwyd rhwng 20 a 100 miliwn o bobl rhwng 1918 a 1919 gan bandemig ffliw y Ffliw Sbaenaidd.

Darganfuwyd feirws newydd, sef HIV, a gychwynnodd yn Affrica.  Roedd y feirws HIV yn arwain at gyflwr AIDS a lledaenodd y feirws ar draws y byd, gan ladd miliynau o bobl. Datblygwyd brechiadau a meddyginaethau i drin y cyflwr.

Gan fod cyfraddau oedran wedi cynyddu mae afiechydon fel canser, Clefyd Alzheimer a Chlefyd Parkinson wedi dod yn fwy cyffredin.

Egni a'r amgylchedd golygu

 
Gwaith dur yn yr Iseldiroedd

Yn ystod yr 20g defnyddiwyd mwy o adnoddau ffosil fel glo, olew a phetrol. Gwnaed mwy o ddefnydd o bŵer niwclear hefyd.

Achosodd y defnydd cynyddol o danwydd ffosil drafodaeth fyd-eang am ei effaith ar lygredd awyr, cynhesu byd-eang a’r newid oedd yn digwydd yn nhymheredd yr hinsawdd.

Roedd plaladdwyr, chwynladdwyr a chemegau gwenwynig eraill yn crynhoi yn yr amgylchedd, yng nghyrff pobl ac mewn anifeiliaid.

Peirianneg a thechnoleg golygu

Un o nodweddion pennaf yr 20g oedd twf a dylanwad technoleg. Cafodd yr ymchwil a wnaed ym maes technoleg effaith ar feysydd eraill fel cyfathrebu, electroneg, peirianneg, teithio, meddygaeth a rhyfel. Dechreuwyd defnyddio offer sylfaenol technolegol yn y cartref o’r 1920au ymlaen, gan ennill mwy o boblogrwydd o’r 1950au ymlaen: er enghraifft, peiriant golchi, sychwyr dillad, rhewgelloedd, rhewgistiau, ffyrnau trydan a sugnwyr llwch.  Poblogeiddiwyd y radio fel ffurf o adloniant o’r 1920au ymlaen. Defnyddiwyd y radio hefyd ar adegau o argyfwng cenedlaethol i gyfathrebu gyda chynulleidfa eang. Daeth F. D. Roosevelt, Arlywydd America, yn enwog yn ystod ei gyfnod fel Arlywydd am ei ‘sgyrsiau ger y tân’ ar y radio gyda phobl America. Roedd Winston Churchill hefyd yn defnyddio’r radio fel arf propaganda wrth iddo geisio codi morâl pobl Prydain adeg yr Ail Ryfel Byd. Daeth y teledu yn fwyfwy cyffredin yn ystod y 1950au a’r 1960au hefyd.

Hedfanwyd yr awyren gyntaf yn 1903.  Dyfeisiwyd yr injan jet gyflymach yn ystod y 1940au ac oherwydd hynny daeth teithio drwy'r awyr o fewn cyrraedd i filiynau o bobl. Daeth cwmnïau teithio masnachol oedd yn darparu gwyliau drwy deithio drwy'r awyr yn fwy cyffredin.

Roedd datblygiad y ‘llinell gynhyrchu’ yn caniatáu adeiladu ceir ar raddfa gyflymach. Ar ddechrau’r 20g cwmni ceir Henry Ford yn America oedd yr un cyntaf yn y byd a fedrai gynhyrchu car ar raddfa eang oherwydd y defnydd o’r llinell gynhyrchu. Ceir Ford oedd y rhain.

Dyfeisiwyd a defnyddiwyd defnyddiau newydd fel dur gloyw, felcro, silicon, tefflon. Daeth plastigau fel polystyren, PVC, polyethylen a neilon yn fwy cyffredin a dechreuwyd eu defnyddio ar gyfer sawl pwrpas gwahanol. Roedd y defnyddiau newydd hyn yn cynnig cryfder, yn medru goddef tymheredd uchel, ac yn medru gwrthsefyll gwahanol gemegau roedd llawer o ddefnyddiau cyn yr 20g yn methu eu gwrthsefyll. Daeth alwminiwm yn fwyfwy cyffredin ac yn ail o ran defnydd i haearn. Datblygwyd miloedd o gemegau ar gyfer cael eu prosesu mewn diwydiant neu ar gyfer defnydd yn y cartref.

Y Chwyldro Digidol golygu

 
Cyfrifiadur personol 'SPARCstation' o'r 90au cynnar

Ar ddiwedd yr 20g bu chwyldro digidol a oedd hefyd yn cael ei adnabod, ymhlith enwau eraill, fel yr ‘oes wybodaeth’ neu'r ‘chwyldro gwybodaeth’.

Dyfeisiwyd y microsglodyn ar ddechrau’r 1960au. Datblygwyd y microsglodyn ymhellach yn y 1970au ac erbyn dechrau'r 1980au roedd y chwyldro microsglodion wedi dechrau. Arweiniodd hyn at y cyfrifiaduron personol yn y 1980au, yna at ddyfeisio ffonau symudol a’r rhyngrwyd byd-eang yn ystod y 1990au.

Erbyn y 1980au a’r 1990au roedd teledu lloeren yn dod yn fwy poblogaidd ac roedd cyfrifiaduron wedi dechrau cael eu defnyddio yn nhai pobl yn ystod y 1970au a’r 1980au. Daeth camerâu digidol yn fwy cyffredin yn ystod y 1980au a’r 1990au.

Bu radio transistor, traciau 8 sain a thapiau casét yn ystod y 1960au yn gamau pwysig yn natblygiad chwaraewyr cerddoriaeth symudol.  Yn raddol disodlodd y rhain chwaraewyr recordiau, gyda’r Sony Walkman yn cael ei gyflwyno yn y 1970au. Wedyn daeth Cryno-ddisgiau yn ystod y 1980au a’r 1990au.  Fe wnaeth dyfodiad yr MP3 ar y we yn ystod canol a ddiwedd y 1990au y broses o ddosbarthu cerddoriaeth yn ddigidol yn bosib. Roedd chwaraewyr tapiau fideo (VCRs) yn boblogaidd yn ystod y 1970au ond erbyn diwedd yr 20g roeddent wedi dechrau cael eu disodli gan chwaraewyr DVD.  Erbyn diwedd degawd cyntaf yr 21ain ganrif roedd VHS wedi dod i ben fel cyfrwng hyfyw.

Bu twf enfawr hefyd yn y diwydiant telegyfathrebu tuag at ddiwedd yr 20g, gyda chyfathrebu di-wifr yn dod yn gyffredin. Gwelwyd twf mewn rhwydweithiau a chwmnïau ffonau symudol yn sgil hynny.

Fforio yn y gofod golygu

 
Yuri Gagarin. Y person cyntaf i fynd i'r gofod.

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd datblygodd Ras Arfau a Ras i’r Gofod rhwng yr arch-bwerau, sef Unol Daleithiau America a’r Undeb Sofietaidd.  Roedd hyn yn rhan o’r Rhyfel Oer.

Teithiau dyn i’r gofod

1961 – Yr Undeb Sofietaidd yn lansio taith ofod Vostok 1, sef taith gyntaf erioed dyn i’r gofod.

1969 – Yr Unol Daleithiau yn lansio Apollo 11, gyda dyn yn glanio ar y lleuad am y tro cyntaf.

Yn nes ymlaen lansiodd rhaglen ofod yr Undeb Sofietaidd yr orsaf ofod gyntaf.

 
Llun o nifwl Tarantula gan delesgop Hubble.

1981 – yr Unol Daleithiau yn datblygu’r system ofod adnewyddadwy gyntaf. Hon oedd Rhaglen y Space Shuttle.

Roedd lloerenni Di-griw hefyd yn hanfodol ar gyfer parhau i fforio a darganfod pethau am y gofod. Lansiwyd lloeren Sputnik 1 yn 1957 gan yr Undeb Sofietaidd, sef y lloeren gyntaf erioed i gael ei lansio i’r gofod. Roedd y lloeren hon yn teithio'n gyson i wahanol fannau yn y gofod. Lansiwyd nifer o loerenni yn ddiweddarach oedd yn teithio o gwmpas y ddaear.  Erbyn diwedd yr 20g roedd nifer o loerenni wedi ymweld â’r lleuad, planedau Mercher, Fenws, Mawrth, Iau, Sadwrn, Wranws a Neifion yn ogystal ag asteroidau a chomedau eraill. Lansiwyd Telesgop Gofod Hubble yn 1990 a oedd yn galluogi darlledu lluniau o’r bydysawd ar gyfrifiaduron a theledu ar draws y byd. Roedd hyn yn ddatblygiad pellach o ran faint o wybodaeth oedd yn medru cael ei chasglu am y bydysawd a dealltwriaeth dyn o’r bydysawd.

Yr 20fed ganrif yng Nghymru golygu

Daeth dechrau canrif newydd â chyfnod cyffrous o dwf economaidd a newidiadau gwleidyddol pellgyrhaeddol yng Nghymru. Dyma ganrif hefyd a welodd Cymru yn magu mwy o ymwybyddiaeth o’i hunaniaeth fel gwlad ac o ran ei hiaith a’i diwylliant.[10]

Ar ddechrau’r ganrif roedd cymoedd y de a’r diwydiant glo yn ffynnu ac yn cynhyrchu traean o holl allforion glo'r byd. Ar y llaw arall, roedd 1900-1913 yn gyfnod o anghydfod diwydiannol gyda streic Chwarel y Penrhyn, a therfysgoedd Tonypandy a Llanelli yn ddiweddarach. Mewn materion gwleidyddol clywid llais y merched am y tro cyntaf gyda chychwyn ymgyrch y Swffragetiaid.  Roedd yn gyfnod o lwyddiant ac optimistaeth mawr, ond buan y tarfwyd ar hynny gyda dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914. Yn ei sgil daeth un o brif ffigurau gwleidyddol amlycaf Cymru’r 20g i’r amlwg, sef David Lloyd George.  Amlygodd y Cymro ei hun fel arweinydd medrus ac adnabuwyd ef fel ‘y dyn a enillodd y rhyfel’.

Ond er mor deyrngar oedd Cymru i’r Rhyddfrydwyr ar ddechrau’r ganrif gwelwyd newidiadau mawr ym map gwleidyddol Cymru yn ystod yr ugeinfed ganrif. Erbyn y 1920au a’r 1930au roedd de Cymru wedi dod yn gadarnle i’r Blaid Lafur, gyda hyd yn oed rywfaint o gefnogaeth i’r Blaid Gomiwnyddol. Er enghraifft, roedd y Rhondda yn cael ei hadnabod fel ‘Moscow Fach’ yn ystod y cyfnod hwn. Sefydlwyd Plaid Genedlaethol Cymru yn 1925, ac yn ystod y degawdau dilynol enillodd y blaid dir newydd yng Nghymru.

Ym myd gwaith symudodd Cymru o fod yn wlad a oedd yn ddibynnol ar y diwydiannau trwm traddodiadol i fod yn wlad ag economi fwy amrywiol, gyda symudiad tuag at waith cynhyrchu ceir, swyddi gweinyddol a byd twristiaeth. Roedd hon yn ganrif lle gwelwyd y gwerthoedd traddodiadol crefyddol yn crebachu, ac roedd yr hen Gymru Anghydffurfiol, a fu’n ddylanwad mor hollbwerus ym mywyd Cymru ar ddechrau’r ganrif, wedi colli ei hapêl i genedlaethau newydd erbyn diwedd y ganrif.

Magodd Cymru hyder cynyddol yn ei hunaniaeth yn ystod y ganrif, gyda sefydliadau cenedlaethol yn cael eu sefydlu fel Prifysgol Cymru, y Llyfrgell Genedlaethol a’r Amgueddfa. Meithrinwyd hefyd ymwybyddiaeth a balchder cynyddol yn ei hiaith a’i diwylliant, gyda thwf mewn addysg Gymraeg, deddfau iaith yn cael eu pasio a hefyd mudiadau yn cael eu sefydlu er mwyn amddiffyn a hyrwyddo hawliau’r iaith. Cryfhawyd yr ymdeimlad hwn o genedlaetholdeb yn sgil profiadau Cymru yn ystod y ganrif - er enghraifft, y cronfeydd dŵr a agorwyd ar draul dinistrio cymunedau Cymraeg eu hiaith, Boddi Tryweryn a’r defnydd a wnaed o’i thir ar gyfer pwrpas milwrol. Roedd y 1960au yn gyfnod lle gwelwyd newid mewn agweddau tuag at werthoedd traddodiadol y genhedlaeth hŷn. Roedd y genhedlaeth ifanc yn herio’r hen drefn. Dyma’r cyfnod pan ddatblygodd ‘Y bwlch rhwng cenedlaethau’. Adlewyrchwyd y newid hwn mewn cerddoriaeth boblogaidd Cymraeg. Ysbrydolwyd nhw gan gynnwrf protestiadau gwleidyddol y cyfnod - er enghraifft, Dafydd Iwan yn cyfansoddi caneuon adeg Arwisgiad 1969. Wedi i’r Blaid Lafur ennill etholiad 1974, ailgydiwyd yn y drafodaeth ynghylch ymreolaeth i Gymru, ac roedd sefydlu mudiadau fel mudiad ysgolion meithrin yn dyst i’r ffaith nad iaith i’r henoed yn unig oedd y Gymraeg.

Coronwyd diwedd y ganrif gyda sefydliad gwleidyddol newydd i Gymru. Etholwyd llywodraeth newydd i Brydain, ac mewn refferendwm yn 1997 pleidleisiodd pobl Cymru dros ddatganoli. Trawsnewidiwyd Bae Caerdydd gydag adeiladau trawiadol y Senedd a Chanolfan y Mileniwm.[11]

Blynyddoedd a degawdau golygu

1900au         1901 1902 1903 1904 1905 1906 1907 1908 1909
1910au 1910 1911 1912 1913 1914 1915 1916 1917 1918 1919
1920au 1920 1921 1922 1923 1924 1925 1926 1927 1928 1929
1930au 1930 1931 1932 1933 1934 1935 1936 1937 1938 1939
1940au 1940 1941 1942 1943 1944 1945 1946 1947 1948 1949
1950au 1950 1951 1952 1953 1954 1955 1956 1957 1958 1959
1960au 1960 1961 1962 1963 1964 1965 1966 1967 1968 1969
1970au 1970 1971 1972 1973 1974 1975 1976 1977 1978 1979
1980au 1980 1981 1982 1983 1984 1985 1986 1987 1988 1989
1990au 1990 1991 1992 1993 1994 1995 1996 1997 1998 1999
2000au 2000

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Tiananmen Square incident | Chinese history [1989]". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-03-30.
  2. "Democracy - The spread of democracy in the 20th century". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-03-30.
  3. "Datblygiad Rhyfela" (PDF). CBAC. Cyrchwyd 3 Ebrill 2020.
  4. "rock and roll | History, Songs, Artists, & Facts". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-03-30.
  5. "Musical performance - The 20th century and beyond". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-03-30.
  6. "Hollywood | History, Movies, & Facts". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-03-30.
  7. "List of art and design movements of the 20th century". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-03-30.
  8. "Olympic Games | History, Locations, & Winners". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-03-30.
  9. "Was the Big Bang Actually an Explosion?". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-03-30.
  10. "Yn y lle hwn - Hyder o'r newydd". www.webarchive.org.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-11-24. Cyrchwyd 2020-04-03.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  11. "Yn y lle hwn - Cymru fodern". www.webarchive.org.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-11-24. Cyrchwyd 2020-04-03.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)

Darllen pellach golygu

  • Hobsbawm, Eric. The Age of Extremes : The Short Twentieth Century 1914-1991 (Llundain, Abacus, 1994).
  • Howard, Michael a Louis, William Roger (gol.). The Oxford History of the Twentieth Century (Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2002).
  • Roberts, J. M. The Penguin History of the Twentieth Century (Llundain, Penguin, 2000).