Nagasaki: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
didolnod Tsieineeg a Choreeg using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 3:
Dinas a phorthladd yn [[Japan]] yw '''Nagasaki''' (長崎市, ''Nagasaki-shi''). Saif ar ynys [[Kyushu]], yn rhan ddeheuol y wlad. Ar [[1 Ebrill]] [[2008]], roedd y boblogaeth yn 445,172.
 
Mae Nagasaki wedi bod yn borthladd pwysig ers canrifoedd. Ym mae Nagasaki ceid ynys [[Dejima]], lle roedd masnachwyr [[Portiwgal|Portiwgeaidd]], ac yn ddiweddarch o'r [[Iseldiroedd]], yn dod i fasnachu.
 
Yn yr [[Ail Ryfel Byd]], roedd Nagasaki yn un o'r ddwy ddinas a ddifrodwyd gan [[Arf niwclear|fom atomig]]. Dri diwrnod wedi i'r [[Unol Daleithiau]] ollwng bom atomig ar [[Hiroshima]], gollyngasant fom cyffelyb ar Nagasaki ar [[9 Awst]] [[1945]]. Lladdwyd tua 39,500 o'r trigolion, ac anafwyd tua 25,000.
 
Ar [[17 Ebrill]] [[2007]], saethwyd maer Nagasaki, [[Itcho Ito|Itchō Itō]], yn farw ger gorsaf y rheilffordd. Roedd y llofrudd, Tetsuya Shiroo, yn un o arweinyddion y Suishin-kai, grŵp cysylltiedig a'r [[Yamaguchi-gumi]], y gangen fwyaf o'r [[Yakuza]].