Nagasaki
Dinas a phorthladd yn Japan yw Nagasaki (長崎市, Nagasaki-shi). Saif ar ynys Kyushu, yn rhan ddeheuol y wlad. Ar 1 Ebrill 2008, roedd y boblogaeth yn 445,172.
![]() | |
![]() | |
Math | core city of Japan, prefectural capital of Japan, dinas fawr, dinas â phorthladd, city for international conferences and tourism, dinas Japan ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 404,656 ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Shirō Suzuki ![]() |
Cylchfa amser | UTC+09:00 ![]() |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Nagasaki ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 406,350,000 m² ![]() |
Gerllaw | Nagasaki Bay, Tachibana Bay, Urakami River ![]() |
Yn ffinio gyda | Isahaya, Saikai, Togitsu, Nagayo ![]() |
Cyfesurynnau | 32.74953°N 129.87964°E ![]() |
Cod post | 850-0002–852-8154 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Q97183008 ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | maer Nagasaki ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Shirō Suzuki ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | Heritage of Portuguese Influence ![]() |
Manylion | |
Mae Nagasaki wedi bod yn borthladd pwysig ers canrifoedd. Ym mae Nagasaki ceid ynys Dejima, lle roedd masnachwyr Portiwgeaidd, ac yn ddiweddarch o'r Iseldiroedd, yn dod i fasnachu.
Yn yr Ail Ryfel Byd, roedd Nagasaki yn un o'r ddwy ddinas a ddifrodwyd gan fom atomig. Dri diwrnod wedi i'r Unol Daleithiau ollwng bom atomig ar Hiroshima, gollyngasant fom cyffelyb ar Nagasaki ar 9 Awst 1945. Lladdwyd tua 39,500 o'r trigolion, ac anafwyd tua 25,000.
Ar 17 Ebrill 2007, saethwyd maer Nagasaki, Itchō Itō, yn farw ger gorsaf y rheilffordd. Roedd y llofrudd, Tetsuya Shiroo, yn un o arweinyddion y Suishin-kai, grŵp cysylltiedig a'r Yamaguchi-gumi, y gangen fwyaf o'r Yakuza.
EnwogionGolygu
- Heisuke Yanagawa (1879-1945), milwr
- Ineko Sata (1904-1998), awdures
- Kazuo Ishiguro (g. 1954), nofelydd