Narbonne: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau using AWB
B →‎top: clean up
Llinell 3:
Dinas yn ne-orllewin [[Ffrainc]] yw '''Narbonne''' ([[Catalaneg]] ac [[Occitaneg]]: '''Narbona'''). Saif yn ''[[département]]'' [[Aude]] yn ''région'' [[Languedoc-Roussillon]]. Ar un adeg roedd yn bothladd prysur, ond erbyn hyn mae tua 15 km o'r môr.
 
Sefydlwyd y ddinas fel trefedigaeth Rufeinig ''Colonia Narbo Martius'' yn [[118 CC]], ar y [[Via Domitia]], y [[ffordd Rufeinig]] gyntaf yng [[Gâl|Ngâl]]. Yn ddiweddarach, sefydlodd [[Iŵl Cesar]] gyn-filwyr o'i leng [[Legio X Gemina]] yno. Rhoddodd y ddinas ei henw i dalaith Rufeinig [[Gallia Narbonensis]].
 
Dan y [[Fisigothiaid]] bu'n brifddinas talaith [[Septimania]], yna am gyfnod yn rhan o [[Emirat Cordoba]] nes iddi gael ei chipio gan y [[Ffranciaid]] dan [[Pepin Fychan]] yn [[759]]. Yn ddiweddarach daeth y ddinas yn llai pwysig, yn rhannol oherydd i [[Afon Aude]] newid ei chwrs. Roedd y boblogaeth yn [[1999]] yn 46,510.