Narbonne
Dinas yn ne-orllewin Ffrainc yw Narbonne (Catalaneg ac Occitaneg: Narbona). Saif yn département Aude yn région Languedoc-Roussillon. Ar un adeg roedd yn bothladd prysur, ond erbyn hyn mae tua 15 km o'r môr.
![]() | |
![]() | |
Math | cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 56,123 ![]() |
Pennaeth llywodraeth | Jacques Bascou ![]() |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 ![]() |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | arrondissement of Narbonne, canton of Narbonne-Est, canton of Narbonne-Ouest, canton of Narbonne-Sud, Le Grand Narbonne, Aude ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 172.96 km² ![]() |
Uwch y môr | 285 ±1 metr ![]() |
Gerllaw | Afon Aude ![]() |
Yn ffinio gyda | Armissan, Bages, Bizanet, Coursan, Cuxac-d'Aude, Fleury, Gruissan, Marcorignan, Montredon-des-Corbières, Moussan, Névian, Port-la-Nouvelle, Peyriac-de-Mer, Saint-André-de-Roquelongue, Vinassan ![]() |
Cyfesurynnau | 43.1847°N 3.0036°E ![]() |
Cod post | 11100 ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Narbonne ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Jacques Bascou ![]() |
![]() | |
Sefydlwyd y ddinas fel trefedigaeth Rufeinig Colonia Narbo Martius yn 118 CC, ar y Via Domitia, y ffordd Rufeinig gyntaf yng Ngâl. Yn ddiweddarach, sefydlodd Iŵl Cesar gyn-filwyr o'i leng Legio X Gemina yno. Rhoddodd y ddinas ei henw i dalaith Rufeinig Gallia Narbonensis.
Dan y Fisigothiaid bu'n brifddinas talaith Septimania, yna am gyfnod yn rhan o Emirat Cordoba nes iddi gael ei chipio gan y Ffranciaid dan Pepin Fychan yn 759. Yn ddiweddarach daeth y ddinas yn llai pwysig, yn rhannol oherydd i Afon Aude newid ei chwrs. Roedd y boblogaeth yn 1999 yn 46,510.
AdeiladauGolygu
- Eglwys gadeiriol St-Just
- Halles de Narbonne
- Horreum
- Palais des Archevêques (Palas Archesgob)
- Via Domitia