Dyddiadur: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B canrifoedd a Delweddau, replaced: 20fed ganrif20g, [[File: → [[Delwedd: using AWB
Canrifoedd a manion using AWB
Llinell 2:
Cofnod o ddigwyddiadau wedi eu trefnu yn ôl dyddiad yw '''dyddiadur''' (weithiau '''dyddlyfr'''), yn draddodiadol ar ffurf ysgrifenedig mewn llyfr. Gall ddyddiadur personol gynnwys manylion ar brofiadau'r awdur, eu teimladau a'i meddyliau, yn cynnwys sylwadau ar ddigwyddiadau'r dydd neu am brofiadau'r awdur. Gelwir rhywun sy'n cadw dyddiadur yn ddyddiadurwr. Mae dyddiaduron ar gyfer defnydd sefydliadol yn rhan sylfaenol o wareiddiad dynol, yn cynnwys cofnodion llywodraethol (e. e. [[Cofnod y Trafodion]] yng [[Cynulliad Cymru|Nghynulliad Cymru]], llyfr cyfrifon busnes a chofnod o [[gwasanaeth milwrol|wasanaeth milwrol]].
 
Erbyn heddiw defnyddir y gair ar gyfer dyddiaduron personol fel arfer, gyda'r bwriad o'u cadw'n breifat neu gylchrediad cyfyngedig gyda ffrindiau neu berthnasau. Cedwir dyddiaduron yr [[Arglwydd Roberts o Gonwy]] yn y [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru|Llyfrgell Genedlaethol]] a chyfrifir [[Hafina Clwyd]] yn ddyddiadurwraig fodern nodedig.<ref>[http://www.y-cymro.com/newyddion/c/x44/i/2781/desc/llyfrgell-genedlaethol-yn-derbyn-dyddiaduron-yr-arglwydd-roberts-o-gonwy/ ''Y Cymro''; adalwyd 22 Awst 2016.]</ref>
 
Er bod dyddiadur yn gallu cofnodi manylion ar gyfer [[cofiant]], [[hunangofiant]] neu [[bywgraffiad|fywgraffiad]], nid yw fel arfer wedi ei ysgrifennu gyda'r bwriad o'i gyhoeddi fel y mae, ond ar gyfer defnydd yr awdur ei hun. Yn y blynyddoedd diweddar fod bynnag, mae tystiolaeth o fewn rhai dyddiaduron (e.e. [[Ned Rorem]], [[Alan Clark]], [[Tony Benn]] neu [[Simon Gray]]) bod rhai awduron yn ei hysgrifennu gyda'r bwriad o'i chyhoeddi yn y pen draw (cyn neu ar ôl marwolaeth) neu er elw.
Llinell 28:
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
 
[[Categori:Dyddiaduron]]