Tigranes Fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Brenin [[Armenia]] o [[95 CC]] hyd [[55 CC]] oedd '''Tigranes Fawr''' neu '''Tigranes II''', [[Armeneg]]: '''Տիգրան Մեծ''', [[Groeg]]: '''Τιγράνης ο Μέγας''' (tua [[140 CC]] - 55 CC).
 
Roedd Tigranes yn fab neineu nai i un ai [[Artavasdes I, brenin Armenia|Artavasdes I]] neu [[Tigranes I]]. Hyd pan oedd tua 40 oed, bu’n wystl yn llys [[Mithridates II. brenin Parthia| Mithridates II]], brenin [[Parthia]], oedd wedi gorchfygu’r Armeniaid yn [[105 CC]]. Wedi marwolaeth Tigranes I yn [[95 CC]], prynodd Tigranes ei ryddid trwy drosglwyddo tiriogaeth yn [[Atropatene]] i’r Parthiaid.
 
Priododd Cleopatra o Pontus, merch [[Mithridates VI, brenin Pontus]], a gwnaeth gynghrair a Pontus. Eu cytundeb oedd fod Mithridates I geisio concro tiriogaethau Rhufeinig yn y gorllewin tra’r oedd Tigranes yn ymestyn ei diriogaethau yn y dwyrain. Wedi marwolaeth Mithridates II, brenin Parthia yn [[88 CC]], manteisiodd Tigranes ar wendid Parthia i gipio’r tiriogaethau yn yn Atropatene oddi wrthynt. Croesodd [[Afon Euphrates]] i ymgyrchu yn [[Syria]] yn erbyn yr [[Ymerodraeth Seleucaidd]].