Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→Hanes: Ychwanegu gwybodaeth Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) |
→Hanes: Ychwanegu gwybodaeth Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) |
||
Llinell 48:
Ar 26 Ebrill 2013, cafwyd tân yn atic estyniad y Llyfrgell newydd.<ref>[http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/107331-llyfrgell-genedlaethol-ar-gau-yn-dilyn-tan golwg 360, "Llyfrgell Genedlaethol ar gau yn dilyn tân", adalwyd 27 Ebrill 2013]</ref> Gwacäwyd yr holl staff o'r adeilad a bu'r frigad dân wrthi'n ddyfal yn diffodd y tân.
==Casgliadau'r Llyfrgell==
Mae casgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnwys dros 6.5 miliwn o gyfrolau printiedig, yn cynnwys y llyfr cyntaf a argraffwyd yn yr iaith Gymraeg, Yny lhyvyr hwnn (1546).Yn ogystal â chasgliadau llyfrau printiedig, mae tua 25,000 o lawysgrifau ymhlith ei daliadau. Mae casgliadau archifol y Llyfrgell yn cynnwys yr Archif Wleidyddol Gymreig ac Archif Sgrin a Sain Genedlaethol Cymru. Mae'r Llyfrgell hefyd yn cadw mapiau, ffotograffau, darluniau, tirluniau a phrintiau topograffydol, cylchgronau a phapurau newydd. Yn 2010, roedd casgliad Llawysgrifau Peniarth a The Life Story of David Lloyd George ymysg y deg arysgrif cyntaf ar Restr Cof y Byd y DG, cofnod UNESCO o dreftadaeth ddogfennol o arwyddocâd diwylliannol.
Mae datblygiad y casgliadau yn canolbwyntio ar ddeunydd perthnasol i bobl Cymru, rhai yn yr iaith Gymraeg ac adnoddau ar gyfer astudiaethau Celtaidd, ond cesglir deunyddiau eraill at ddibenion addysg ac ymchwil llenyddol a gwyddonol. Fel llyfrgell adnau cyfreithiol, mae gan y Llyfrgell hawl i wneud cais am gopi o bob llyfr a gyhoeddir yn y Deyrnas Gyfunol ac Iwerddon. Mae hyn wedi caniatáu i'r Llyfrgell i gasglu llyfrau Cymraeg, Gwyddeleg a Gaeleg modern ar gyfer ei chasgliad Celtaidd. Yn ategol i'r deunydd sydd wedi'i dderbyn trwy adnau cyfreithiol, mae'r Llyfrgell yn datblygu ei chasgliadau trwy bwrcasu a chyfnewid, a derbyn rhoddion a chymynroddion.
Gellir chwilio trwy gasgliadau'r Llyfrgell gan ddefnyddio ei chatalog arlein. Mae daliadau'r Llyfrgell hefyd i'w canfod yng nghatalogau y Llyfrgell Ewropeaidd a Copac.
==Mynediad Agored a chydweithio â Wikimedia==
|