Fy enw ydy Dafydd Tudur. Rwy'n enedigol o Gaerdydd, wedi byw ym Mangor, astudio yn Aberystwyth. Rydw i bellach yn byw yng nghyffiniau Aberaeron ac yn gweithio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Diddordebau golygu

Fy niddordeb pennaf yw hanes, ac yn arbennig hanes Cymru. Fy maes academaidd yw hanes Cymru'r 19eg ganrif, yn arbennig hunaniaeth, ymfudo, Anghydffurfiaeth, a datblygiad cenedlaetholdeb.

Addysg golygu

Rwy'n gyn-ddisgybl Ysgol Gynradd Bro Eirwg (Caerdydd), Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf (Caerdydd) ac Ysgol Tryfan (Bangor).

Astudiais yn Adran Hanes a Hanes Cymru Prifysgol Cymru Aberystwyth ac, ar ol graddio gyda dosbarth cyntaf yn 2001, dechreuais waith ymchwil PhD dan nawdd yr AHRC yn Adran Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefyddol Prifysgol Bangor, a hynny o dan oruchwyliaeth Dr Robert Pope. Testun fy ngwaith ymchwil oedd 'The Life, Work and Thought of Michael Daniel Jones (1822-98)'. Bûm yn Gymrawd Addysgu Cyfrwng Cymraeg dan nawdd HEFCW yn 2004-05.

Gyrfa golygu

Yn 2006, cefais fy mhenodi yn Swyddog Prosiect a Golygydd Culturenet Cymru, cwmni nid-er-elw ac elusen gofrestredig oedd wedi'i leoli yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Roedd Culturenet Cymru yn gweithio gyda phartneriaid yn y sector treftadaeth, grwpiau cymunedol ac ysgolion i ddigido deunydd hanesyddol a chreu adnoddau digidol ar eu cyfer. Roedd Culturenet wedi tarddu o Casglu'r Tlysau, a hwnnw oedd y prif brosiect hyd nes i Casgliad y Werin gael ei lawnsio, Roeddwn i'n gweithio yn y lle cyntaf ar Glaniad,gwefan deirieithog sy'n cyflwyno hanes y cymunedau Cymreig ym Mhatagonia trwy gasgliadau cadwrfeydd yng Nghymru a'r Ariannin.

Cefais fy mhenodi yn Rheolwr Culturenet Cymru yn 2009.

Yn 2010, cefais fy mhenodi yn Rheolwr Hawliau a Gwybodaeth, swydd newydd a oedd wedi'i chreu gan y Llyfrgell Genedlaethol. Roeddwn eisoes wedi dechrau ymddiddori mewn trwyddedu agored (e.e. Creative Commons) a'r newid meddylfryd a diwylliant a ddoi gyda hynny. Rwyf wedi bod ynghlwm â newidiadau polisi yn y maes hwn yn y Llyfrgell dros y blynyddoedd diwethaf ac roeddwn yn gysylltiedig â phenodi'r Wicipediwr Preswyl yn 2015.

Roeddwn yn Rheolwr Isadran Mynediad Digidol Llyfrgell Genedlaethol Cymru rhwng 2015 a 2019, gyda chyfrifoldeb rheolyddol dros weithgareddau yn ymwneud â phrosiectau Wicipedia a chyfraniad y Llyfrgell i Gasgliad y Werin yn ogystal â mynediad digidol i gasgliadau'r Llyfrgell. Rwyf wedi bod yn Bennaeth Mynediad a Rhaglenni Cyhoeddus y Llyfrgell Genedlaethol ers Ionawr 2020.

Fy nghyfrifon Twitter Cymraeg ydi @dafyddtudur - cyfrif proffesiynol i drydar yn Gymraeg yn bennaf am bethau yn ymwneud â Chymru a'r Gymraeg - a @daf_tudur - hefyd yn Gymraeg, cyfrif cwbl bersonol, ond cyhoeddus hefyd. Mae gen i hefyd gyfrif @dafydd_tudur - cyfrif proffesiynol i drydar yn Saesneg yn bennaf am fy ngwaith gyda'r Llyfrgell Genedlaethol i gynulleidfa ryngwladol.