Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Bwlch y Gorddinen"

Ychwanegwyd 19 beit ,  13 o flynyddoedd yn ôl
B
dim crynodeb golygu
B
Y mae '''Bwlch y Gorddinan''', a adnabyddir yn ogystal fel '''Y Crimea''' ([[Saesneg]]: ''The Crimea Pass''), yn [[bwlch|fwlch]] mynyddig yng ngogledd [[Cymru]], ar lôn yr [[A470]] rhwng [[Blaenau Ffestiniog]] i'r de a [[Dolwyddelan]] i'r gogledd. Mae pen y bwlch yn gorwedd yn sir [[Conwy (sir)|Conwy]] ond mae'n disgyn i sir [[Gwynedd]] ar yr ochr arall, i'r de. Gorwedd y bwlch ar sawdl rhwng [[Moel Penamnen]] a Moel Farlwyd i'r dwyrain a Moel Ddyrnogydd i'r gorllewin.
 
Yn ei fan uchaf mae'r bwlch yn gorwedd 385m (1,262 troedfedd) uwch lefel y môr, ac mae'r ffordd drosto yn cael ei chau gan eira yn y gaeaf weithiau. Ar un adeg bu [[tafarn]] ar ben y bwlch. Mae'r tir yn agored ar ochr [[Dyffryn Lledr]], ond mae'r ffordd yn disgyn yn serth i'r de i lawr i'r Blaenau trwy domenni llechi gwastraff trawiadol [[Chwarel Llechwedd]]. Mae'r daith i'r de dros y Bwlch yn adlewyrchu oes aur y diwydiant llechi ym [[Blaenau Ffestiniog|Mlaenau Ffestiniog]], gyda degau o chwareli, yn cynnwys Gloddfa Ganol, Tal y Waenydd a'r Llechwedd yn creithio'r Moelwynion.
 
Er bod Bwlch y Gorddinan yn enw hen, gelwir y bwlch '''(Y) Crimea''' neu '''Pas Crimea''' ar lafar. Mae'r enw hwnnw yn dyddio o gyfnod [[Rhyfel Crimea]], a ymladdwyd tua'r amser yr agorwyd y ffordd fodern dros y bwlch, yn [[1854]]. Yn ôl traddodiad, codwyd nifer o'r waliau cerrig ger y bwlch gan [[carcharor rhyfel|garcharorion rhyfel]] o [[Rwsia]] a gawsant eu dal ym mrwydrau [[Brwydr Inkerman|Inkerman]] a [[Brwydr Balaclava|Balaclava]].
37,236

golygiad