Urdd Sant Ffransis: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 11:
=== Urdd Sant Ffransis yng Nghymru ===
 
Cyhaeddodd yr Urdd i Gymru yn weddol fuan wedi marwolaeth Sant Ffransis; sefydlodd [[Llywelyn Fawr]] dŷ iddynt yn [[Llanfaes]] ar [[Ynys Môn]] yn [[1237]]. Ceir yr hanes yn [[Brut y Tywysogion]]:
:Y flwyddyn ragwyneb y bu farw Dâm [[Siwan]], ferch Ieuan frenin, gwraig Llywelyn ap Iorwerth, fis Chwefror yn [[Garth Celyn|llys Aber]]; ac y'i claddwyd mewn mynwent newydd ar lan y traeth a gysegrasai Hywel, [[esgob Llanelwy]]. Ac o'i hanrhydedd hi ydd adeiladawdd Llywelyn ap Iorwerth yno fynachlog (i'r Brodyr) Troednoeth a elwir Llan-faes ym Môn.

Ddeugain mlynedd yn ddiweddarch, roeddynt wedi ychwanegu tai yng [[Caerdydd|Nghaerdydd]] a [[Caerfyrddin|Chaerfyrddin]]. Credir fod y bardd crefyddol [[Madog ap Gwallter]] o ail hanner y [[13eg ganrif]] yn aelod o'r Urdd. Yn yr un cyfnod roedd yr ysgolhaig Ffransiscaidd [[John o Gymru]] (''John Wallensis'') a fu farw yn [[1285]] yn gweithio yn [[Rhydychen]] a [[Paris]]. Yn ddiweddarach roedd y merthyr Catholig Sant [[John Jones (sant)|John Jones]] ([[1559]] - [[1598]]), a aned yng [[Clynnog Fawr|Nghlynnog Fawr]], yn perthyn i'r Urdd.
 
Heddiw mae tŷ Ffransiscaidd ym [[Pantasaph|Mhantasaph]] ger [[Treffynnon]] yng Ngogledd Cymru.