Catraeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) Urien |
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) ehangu |
||
Llinell 3:
Ceir y cyfeiriadau mwyaf adnabyddus at y lle yn ''[[Y Gododdin]]''', sy'n cyfeirio at frwydr a ymladdwyd efallai tua'r flwyddyn [[600]]. Dywedir yma fod brenin y Gododdin, Mynyddog Mwynfawr, wedi casglu rhyfelwyr o nifer o deyrnasoedd Brythonig ac wedi daparu gwledd iddynt am flwyddyn yn ei neuadd yn Din Eidyn ([[Caeredin]] heddiw), cyn eu gyrru ar ymgyrch i Gatraeth. Mae'n amlwg fod Catraeth ym meddiant yr [[Eingl]] ar y pryd. Lladdwyd bron y cyfan ohonynt mewn brwydr yn erbyn byddin enfawr y gelyn.
Yng [[Canu Taliesin|Nghanu Taliesin]], sy'n perthyn efallai i gyfnod ychydig yn gynharach, cyferchir [[Urien Rheged]], arglwydd [[Rheged]] fel 'Gwledig Catraeth' (Brenin Catraeth)
Yr ysgolhaig Cymreig [[Thomas Stephens]] yn y [[19eg ganrif]] oedd y cyntaf i gynnig mai [[Catterick]] yn [[Swydd Efrog]] yng ngogledd [[Lloegr]] oedd "Catraeth". Derbyniwyd hyn gan Syr [[Ifor Williams]] a chan y rhan o ysgolheigion ers hynny.
|