Meddygon Myddfai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
cat
Llinell 4:
 
Cysylltir dechreuadau'r llinach a chwedl [[Llyn y Fan Fach]]. Yn y chwedl cytunodd llanc lleol, mab gweddw o Flaen Sawdde (ger [[Llanddeusant]]) i briodi merch brydferth a godai o'r llyn ar yr amod na fyddai yn ei tharo dair gwaith. Gwnaeth hynny'n hawdd gan mor brydferth yr oedd y ferch, a buon nhw'n hapus iawn am flynyddoedd gan godi tŷ yn Esgair Llaethdy, ger Myddfai, a magu teulu yno. Roedd gan y ferch wartheg arbennig iawn ac anifeiliad eraill. Ond dros amser fe wnaeth y gŵr daro ei wraig dair gwaith, a bu rhaid iddi fynd yn ôl i'r llyn yn ôl yr addewid gan ddwyn y gwartheg gyda hi. Ond daeth y fam yn ôl o bryd i'w gilydd i hepu a hyfforddi ei meibion, ac yn neilltuol Rhiwallon, sylfaenydd llinach y meddygon. Mewn rhai fersiynau Rhiwallon yw enw'r llanc sy'n priodi'r ferch hud a lledrith.
 
[[Categori:Meddygon Cymreig]]
[[Categori:Pobl o Sir Gaerfyrddin]]