37,236
golygiad
Porius1 (Sgwrs | cyfraniadau) B |
Porius1 (Sgwrs | cyfraniadau) (ehangu) |
||
[[Image:Pilgrim's Progress 2.JPG|200px|thumb|right|Cristion yn mynd trwy'r porth, a agorir gan Mr. Ewyllys Da; llun o argraffiad 1778 yn Lloegr.]]
Llyfr gan [[John Bunyan]] a gyhoeddwyd gyntaf yn [[Saesneg]] yn Chwefror [[1678]] fel ''The Pilgrim's Progress from This World to That Which Is to Come'' yw '''''Taith y Pererin'''''. Mae wedi ei gyfeithu i dros gant o ieithoedd, a bu'r fersiwn Gymraeg yn eithriadol o boblogaidd am gyfnod hir. Gyda'r [[Beibl]] a ''[[Canwyll y Cynry]]'' gan [[Rhys Prichard|Y Ficer Prichard]], roedd am gyfnod hir yn un o'r tri llyfr oedd i'w cael yn ymron bob cartref Cymreig lle ceid llyfrau o gwbl.
Dechreuodd Bunyan ysgrifennu'r llyfr pan oedd yng ngharchar [[Bedford]] am gynnal cyfarfodydd crefyddol heb fod dan awdurdod [[Eglwys Loegr]]. Ymddangosodd argraffiad wedi ei ehanu yn [[1679]], a'r Ail Ran yn [[1684]]. Mae'r stori yn [[alegori]] sy'n dilyn helyntion Cristion wrth iddo ffoi o'r Ddinas Ddihenydd a theithio tua'r ddinas nefol. Yn yr ail ran mae gwraig Cristion, Christiana a'u plant yn dilyn yr un daith.
|
golygiad