Eisteddfod Genedlaethol Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ehrenkater (sgwrs | cyfraniadau)
Dadwneud y golygiad 2582253 gan 165.120.141.129 (Sgwrs | cyfraniadau)
Ehrenkater (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 13:
Er bod traddodiad yr [[eisteddfod]] yn ganrifoedd oed, ni chynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf tan [[1861]], yn [[Aberdâr]]. Daeth y gyfres flynyddol honno i ben oherwydd diffyg cyllid yn 1868. Yn 1880 sefydlwyd [[Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol]] a dan nawdd y gymdeithas hon cynhaliwyd Eisteddfod [[Merthyr Tudful]] yn [[1881]] a chynhaliwyd eisteddfod yn ddifwlch wedyn ar wahân i [[1914]] a [[1940]].<ref>Melville Richards, 'Eisteddfod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg', yn ''Twf yr Eisteddfod Genedlaethol''.</ref>
 
Roedd [[Iolo Morganwg]] wedi sefydlu [[Gorsedd Beirdd Ynys Prydain]] yn [[1792]]. Fel y tyfodd yr Eisteddfod Genedlaethol daeth yr orsedd i'w chysylltu fwy-fwy gyda hi, gan gychwyn gydag [[Eisteddfod Caerfyrddin 1819]], nes datblygu yn rhan o seremonïau'r eisteddfod fwy neu lai fel y mae heddiw. Yr orsedd sydd yn gyfrifol am seremonïau cadeirio a choroni'r barddbeirdd yn ogystal â chyflwyno'r Fedal Ryddiaith. Ailwampiodd yr Archdderwydd [[Geraint Bowen]] tipyn ar y seremonïau, er enghraifft diddymu Seremoni'r Cymry Ar Wasgar', a dod â'r brodyr Celtaidd i mewn i rai o'r prif seremonïau. Mae aelodau'r orsedd yn rhannu'n dri grŵp, gyda lliw gwahanol i wisg bob un.
 
Caiff yr Eisteddfod Genedlaethol ei chynnal bob blwyddyn yn ystod wythnos lawn gyntaf mis [[Awst]], yn y de a'r gogledd bob yn ail. Ond ceir Seremoni'r Cyhoeddi tua 13 mis cyn yr Eisteddfod. pryd y bydd Gorsedd y Beirdd a'i chefnogwyr yn gorymdeithio drwy'r dref i Gylch yr Orsedd. Ar ôl y seremoni cyflwynir rhestr o destunau'r Eisteddfod i'r Archdderwydd.
 
Mae maes yr Eisteddfod yn mesur oddeutu 15 i 18 erw (6 i 7 ha). Ar wahan i'r pafiliwn mawr, bydd hefyd y Babell Len, y Babell Ddawns, Pabell y Cymdeithasau, y Lle Celf; a bydd nifer o stondinau gan gymdeithasau gwirfoddol, megis yr Urdd, Merched Wawr; bydd y pleidiau gwleidyddol ar y maes hefyd a busnesau.
 
Yn y gorffennol, roedd Saesneg yn rhan o'r gweithgareddau, a chlywid hi hyd yn oed ar lwyfan yr Eisteddfod ei hun. Nododd y cyfansoddiad newydd ym [[1952]] mai iaith swyddogol yr eisteddfod oedd y [[Gymraeg]] yn unig, ac roedd [[Albert Evans Jones|Cynan]] yn flaenllaw yn y gwaith o gadw'r eisteddfod yn uniaith Gymraeg.
 
Ymhlith eisteddfodau eraill Cymru mae: [[Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd]], [[Eisteddfod Ryngwladol Llangollen]], [[Eisteddfod Pantyfedwen]], [[Eisteddfod Powys]] ac [[Eisteddfod Môn]]. Ceir hefyd nifer o eisteddfodau llai ledled Cymru, megis Eisteddfod [[Pwllglas|Pwll-glas]].