Ysgolion Cylchynol Cymreig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
llyfr
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 5:
Bu Griffith Jones yn brysur yn codi arian ar gyfer yr ysgolion; y prif gyfranwyr oedd Syr John Philipps a Bridget Bevan (Madam Bevan). Telid tua £5 y flwyddyn i'r athrawon, oedd yn cael eu hyfforddi yn ''Yr Hen Goleg'' yn Llanddowror. Erbyn [[1740]] roedd 150 o ysgolion wedi ei sefydlu, y rhan fwyaf yn ne Cymru. Yn ddiweddarach lledaenodd yr ysgolion yn y gogledd hefyd. Erbyn [[1758]] roedd 218 o ysgolion, gyda nifer sylweddol o ddisgyblion ym mhob sir heblaw [[Sir y Fflint]] a [[Sir Drefaldwyn]]. Wedi marwolaeth Griffith Jones yn 1761, parhawyd yr ysgolion gan Madam Bevan. Pan fu hi farw yn [[1779]] gadawodd £10,000 i barhau'r ysgolion, ond cystadlwyd ei hewyllys ac ni chafwyd penderfyniad cyfreithiol am 31 mlynedd. Oherwydd diffyg arian, daeth y cynllun i ben.
 
Amcangyrifa Geraint Jenkins fod yr ysgolion cylchynol wedi dysgu tua 250,000 o bobl i ddarllen, allan o boblogaeth o tua 490,000. Erbyn marwolaeth Griffith Jones, roedd Cymru yn mwynhau un o'r lefelau [[llythrenedd]] gorau yn y byd, cymaint felly nes i'r Ymerodres [[Catrin IIFawr]] o Rwsia yrru comisiynydd i weld a oedd modd addasu'r system ar gyfer [[Rwsia]].
 
==Llyfryddiaeth==