Bryncir: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Thaf (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Mae '''Bryncir''' yn bentref yn [[Eifionydd]], [[Gwynedd]]. Saif ar y briffordd [[A487]] rhwng [[Pant Glas]] a [[Dolbenmaen]], gyda [[Garndolbenmaen]] ychydig i'r de-ddwyrain. Mae gerllaw [[Afon Dwyfach]].
 
Gellir gweld nifer o hynafiaethau yn yr ardal, yn cynnwys [[Pen Llystyn|caer Rufeinig ym Mhen Llystyn]], lle mae olion y muriau i'w gweld er bod y chwarel raean yno wedi difetha'r tu mewn. Ym mur yr ardd yn ffermdy Llystyn Gwyn, ychydig i'r gogledd o'r pentref mae carreg o'r [[6ed ganrif]] gydag arysgrif mewn [[Lladin]] ac [[Ogam]]. Yn y Lladin mae'n darllen ICORI(X) FILIUS / POTENT / INI (Icorix, mab Potentinus). Mae cerrig dwyieithog, Lladin ac Ogam, yn gyffredin yn ne-orllewin [[Cymru]], ond dyma'r unig un yn y gogledd-orllewin.
 
Mae Bryncir yn bentref prysur, gyda canolfan arddio, tafarnau a siopau, ac yn enwedig y farchnad anifeiliad sy'n denu ffermwyr o gryn bellter. Er gwaethaf yr enw, mae Ffatri Wlân Bryncir gryn bellter i'r de-ddwyrain, gerllaw [[Golan, Gwynedd|Golan]].