Pen Llystyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Safel caer Rufeinig ger Bryncir, Gwynedd, yw '''Pen Llystyn'''. Caer atodol oedd hi, yn gysylltiedig â chaer fawr Segontium i'r gogledd (ger [... |
ehangu |
||
Llinell 5:
Caer bren oedd hi, tua 1.6 hectar, a godwyd tua'r flwyddyn [[80]] OC ar gyfer garsiwn cymysg o filwyr troed a marchogion yn ystod ymgyrch y [[Rhufeiniaid]] i oresgyn gogledd Cymru. Ond ymddengys iddo gael ei rhoi heibio yn fuan ar ôl hynny ac i gaer fechan - gwarchodfa yn hytrach na chaer go iawn - gael ei chodi yno yn ddiweddarach, ond ni pharhaodd honno am hir chwaith.
Efallai fod y gaer Rufeinig ym Mhen Llystyn yn nhiriogaeth llwyth y [[Gangani]], efallai ar y ffin rhyngddynt hwy a'r [[Ordoficiaid]]. Mae olion y muriau i'w gweld er bod y chwarel raean yno wedi difetha'r tu mewn.
==Cyfeiriadau==
* Christopher Houlder, ''Wales: an Archaeological Guide'' (Llundain, 1978)
* Lynch, Frances (1995) ''Gwynedd'' (''A guide to ancient and historic Wales'') (Llundain:HMSO) ISBN: 0-11-701574-1
{{Caerau Rhufeinig Cymru}}
|