Bryncir

pentref yng Ngwynedd

Pentref yng nghymuned Dolbenmaen, Gwynedd, Cymru, yw Bryncir.[1][2] Saif yn ardal Eifionydd ar briffordd yr A487 rhwng Pant Glas a phentref Dolbenmaen, gyda Garndolbenmaen ychydig i'r de-ddwyrain. Mae gerllaw Afon Dwyfach.

Bryncir
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.979297°N 4.263598°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[4]

Gellir gweld nifer o hynafiaethau yn yr ardal, yn cynnwys caer Rufeinig ym Mhen Llystyn, lle mae olion y muriau i'w gweld er bod y chwarel raean yno wedi difetha'r tu mewn. Ym mur yr ardd yn ffermdy Llystyn Gwyn, ychydig i'r gogledd o'r pentref mae carreg o'r 6g gydag arysgrif mewn Lladin ac Ogam. Yn y Lladin mae'n darllen ICORI(X) FILIUS / POTENT / INI (Icorix, mab Potentinus). Mae cerrig dwyieithog, Lladin ac Ogam, yn gyffredin yn ne-orllewin Cymru, ond dyma'r unig un yn y gogledd-orllewin.

Mae Bryncir yn bentref prysur, gyda chanolfan arddio, tafarnau a siopau, ac yn enwedig y farchnad anifeiliad sy'n denu ffermwyr o gryn bellter. Er gwaethaf yr enw, mae Ffatri Wlân Bryncir gryn bellter i'r de-ddwyrain, gerllaw Golan. Daw enw'r pentref o blasty Bryncir, tua dwy filltir i'r de-ddwyrain wrth geg Cwm Pennant. Pan adeiladwyd y rheilffordd, mynnodd Mr Huddart, perchennog ystâd Bryncir ar y pryd, y byddai gorsaf yn cael ei chodi mor agos ag oedd yn bosibl i'w blasty.

Cafwyd damwain ddrwg ar y rheilffordd ger Gorsaf reilffordd Bryncir cyn iddi agor yn swyddogol ym 1866.

Mae llwybr Cenedlaethol Lôn Las Cymru yn rhedeg drwy'r pentre, ac yma dechreuir adran Lôn Eifion, ar lwybr y rheilffordd Caernarfon-Afonwen.

Enwogion golygu

Magwyd y cyflwynydd teledu a radio Gerallt Pennant (g. 1960, Bangor) yn Nerwyn Fechan ym Mryncir.

Llyfryddiaeth golygu

  • Frances Lynch, Gwynedd, A Guide to Ancient and Historic Wales (Llundain: HMSO, 1995); gweler "Pen Llystyn"

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 15 Mawrth 2022
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU

Dolenni allanol golygu