Hanes Ynys Manaw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
llun
BDim crynodeb golygu
Llinell 5:
Yn ôl y traddodiad barddol, daeth [[Merfyn Frych]], a ddaeth yn frenin [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] tua [[825]], o "Fanaw", ond mae'n ansicr a yw hyn yn cyfeirio at Ynys Manaw neu at hen deyrnas [[Manaw Gododdin]] (yn Yr Alban heddiw). Ar groes ar Ynys Manaw mae arysgrif ''Crux Guriat''. Credir fod y groes yn dyddio o'r wythfed neu'r nawfed ganrif, felly mae'n bosibl mai tad Merfyn oedd y "Guriat" yma.
 
Dechreuodd y Llychlynwyr ymosod ar yr ynys rhwng [[800]] ac [[815]], ac o tua [[850]] ymlaen daeth dan reolaeth brenhinoedd Danaidd [[Dulyn]]. O tua 990 daeth yn eiddo Ieirll Orkney. Cynhyrchwyd darnau arian ar yr yns rhwng tua 1025 a tua 1065. Yn [[1079]] goresgynwyd yr ynys gan [[Godred Crovan]] oedd hefyd wedi goresgyn rhannau o Iwerddon, a sefydlodd linach o frenhinoedd gyda'r teitl ''[[Teyrnas Manaw a'r Ynysoedd|Rex Manniae et Insularum]]''. Roedd mab Godred, [[Olaf I, brenin Ynys Manaw|Olaf]], yn frenin nerthol a llwyddodd i gadarnhau annibynniaeth yr ynys.
 
Yn ystod y cyfnod yma roedd Manaw, mewn theori o leiaf, yn rhan o deyrnas brenin [[Norwy]]. Gorfodwyd y brenin [[Ragnald, brenin Ynys Manaw|Ragnald]] i dalu gwrogaeth i [[John, brenin Lloegr]] yn nechrau'r [[13eg ganrif]], ond dylanwad [[yr Alban]] oedd gryfaf yn y cyfnod yma.
Llinell 14:
O [[1866]] cafodd Ynys Manaw fesur o hunanlywodraeth, a llwyddwyd i ddefnyddio lefelau isel o drethi i hybu economi'r ynys. Bu farw siaradwr olaf yr iaith Fanaweg yn y 1970au. Sefydlwyd pleidiau cenedlaethol [[Mec Vannin]] a'r [[Manx National Party|MNP]], yn ogystal a ''Fo Halloo'' ("Tan y ddaear"), fu'n paentio arwyddion a llosgi tai haf ar raddfa fechan.
 
==Gweler hefyd==
*[[Teyrnas Manaw a'r Ynysoedd]]
 
{{Hanes y Gwledydd Celtaidd}}
 
[[Categori:Hanes Ynys Manaw| ]]
 
 
[[en:History of the Isle of Man]]