Y Bers: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Tudalen newydd: Pentref ym mwrdeisdref sirol Wrecsam yw '''Y Bers''' (Saesneg: ''Bersham''. Saif gerllaw Afon Clywedog, ychydig oddi ar y briffordd A483, i'r gogledd-o...
 
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
 
Pentref ym [[Wrecsam (sir)|mwrdeisdref sirol Wrecsam]] yw '''Y Bers''' ([[Saesneg]]: ''Bersham''. Saif gerllaw [[Afon Clywedog]], ychydig oddi ar y briffordd [[A483]], i'r gogledd-orllewin o bentref [[Rhostyllen]].
 
Mae'r BesBers o bwysigrwydd mawr yn hanes y [[Chwyldro Diwydiannol]]. Yma yr oedd gweithdai y [[Brodyr Davies]], yma y dechreuodd cynhyrchu haearn modern am y tro cyntaf ym Mhrydain yn [[1670]] a lle sefydlodd [[John Wilkinson]] ei weithdy yn [[1761]]. Am gyfnod hir, roedd yr ardal yn un o'r canolfannau cynhyrchu haearn pwysicaf yn y byd. Mae Gwaith Haearn Bersham yn awr yn amgueddfa sy'n adrodd yr hanes. Roedd Pwll Glo Bersham ym mhentref cyfagos Rhostyllen.
 
Gerllaw'r pentref mae Coed Plas Power, 33.7ha o goedwig ar hyd Afon Clywedog rhwng [[Coedpoeth]] a'r Bers. Ceir rhan o [[Clawdd Offa|Glawdd Offa]] yn y coed yma.