Tonia Antoniazzi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Ychwanegu gwybodaeth am ei gyrfa seneddol
Llinell 1:
Gwleidydd gyda[[Y Blaid Lafur (DU)|'r Blaid Llafur]] ac Aelod Seneddol dros [[Gŵyr (etholaeth seneddol)|etholaeth Gwyr]] yw '''Tonia Antoniazzi'''.<ref>[http://www.parliament.uk/biographies/commons/tonia-antoniazzi/4623 Parliament UK]</ref>
 
== Bywyd Cynnarcynnar ==
Ganwyd a magwyd Tonia yn Llanelli i fam a oedd yn Gymraes a thad a oedd yn Eidalwr. Bu'n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gatholig John Lloyd a Choleg Gorseinon. Astudiodd Tonia Ffrangeg ac Eidaleg ym Mhrifysgol Exeter gan ennill Tystysgrif Ol-raddedig mewn Addysg o Brifysgol Caerdydd. Aeth ymlaen i gael ei phenodi yn bennaeth ieithoedd yn Ysgol Bryngwyn, Llanelli. Mae hefyd yn gyn-chwaraerwraig rygbi rhyngwladol dros Gymru.<ref>http://swanseabaytimes.com/32940/282819/a/ex-welsh-womens-rugby-player-contests-uks-most-marginal-seat Swansea Bay Times, Mehefin 2017</ref>
 
== Gyrfa seneddol ==
Safodd Tonia yn Etholiad Cyffredinol 2017 fel ymgeisydd i etholaeth Gwyr, a oedd ar y pryd yn cael ei dal gan y Ceidwadwr Byron Davies gyda mwyafrif o 27 pleidlais, y sedd fwyaf ymylol yn y Deyrnas Gyfunol. Bu'n llwyddiannus, gan ennill y sedd i'r Blaid Lafur gyda mwyafrif o 3,269 o bleidleisiau.
 
== Ffynonellau ==