Ellen ap Gwynn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Categoriau a Cyfeiriadau |
|||
Llinell 2:
== Bywyd Personol ==
Ganed Ellen ap Gwynn yn yr Alban ond fe’i maged ym Morth-y-gest ger Porthmadog lle mynychodd Ysgol Eifionydd cyn raddio o Brifysgol Aberystwyth. Mae Ellen yn gyn Gadeirydd Cenedlaethol Plaid Cymru a chyn Gadeirydd Pwyllgor Llywio’r Gynhadledd ac fe safodd ym Maldwyn yn Etholiad Cyffredinol 2005. Mae’n gynghorydd sir a chymuned ers 1999 ac yn Arweinydd Grwp Cynghorwyr Ceredigion ers 2006. Cafodd ei hethol yn Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion yn 2012 a’i hail ethol i’r un swydd ym mis Mai eleni yn dilyn etholiadau’r Cyngor Sir.
Mae’n cynrychioli’r Cyngor ar CLlLC ac wedi dal y portffolio Cydraddoldebau a Heneiddio’n Dda. Mae hefyd wedi gwasanaethau fel Is-gadeirydd ERW, consortiwm Gwella Addysg Canol a Gorllewin Cymru. Mae hi’n Gadeirydd Partneriaeth Tyfu’r Canolbarth ac o Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion.
Bu’n Gadeirydd Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu Ceredigion, yn Gadeirydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gwasanaethau Cymdeithasol, yn Gadeirydd Partneriaeth Blynyddoedd Cynnar Ceredigion ac yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Awdit.
Bu'n gweithio yn broffesiynol mewn reolaeth gelf, fel sylfaenydd Cwmni Theatr Arad Goch, a bu'n Gyfarwyddwr CYD ac yn Reolwr Cyffredinol Radio Ceredigion. ▼
▲
Bu’n Gadeirydd Mudiad Ysgolion Meithrin a WAPA ac yn Ysgrifennydd cyntaf Llywodraethwyr Cymru. Yn gyn aelod o Gyngor Celfyddydau Cymru bu’n arwain ar sefydlu Theatr Genedlaethol Cymru a bu’n Gadeirydd Hyfforddiant Celfyddydau Cymru.
Mae’n gyn aelod o Fwrdd eco-dyfi, cyn Is-gadeirydd Partneriaeth y Biosffer ac yn gyn aelod o Fwrdd Tai Ceredigion. Mae’n gyn aelod o Lys a Chyngor Prifysgol Aberystwyth, ac o Lywodraethwyr Coleg Ceredigion. Mae’n parhau yn Lywodraethwr o ysgol Tal-y-bont. Mae’n briod a Iolo ac mae ganddynt tri o blant a phedwar o wyrion.
== Gyrfa Wleidyddol ==
|