Tre Taliesin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
:''Mae hon yn erthygl am y pentref Tre Taliesin. Am enghreifftiau eraill o'r enw Taliesin gweler [[Taliesin (gwahaniaethu)]].''
Pentref yn ardal [[Genau'r Glyn]], gogledd [[Ceredigion]], yw '''Tre Taliesin'''. Lleolir y pentref ar y briffordd [[A487]], tua hanner ffordd rhwng [[Machynlleth]] i'r gogledd-ddwyrain ac [[Aberystwyth]] i'r de. Y pentrefi agosaf yw [[Tal-y-bont (Ceredigion)|Tal-y-bont]] i'r de a phentref bychan [[Llangynfelyn]], hanner milltir i'r gorllewin. Mae Tre Taliesin ei hun yn rhan o blwyf a chymuned Llangynfelyn.
 
Mae gan yr ardal gysylltiadau cryf â'r [[Taliesin Ben Beirdd|Taliesin chwedlonol]]; yn ''[[Hanes Taliesin]]'' mae [[Elffin ap Gwyddno]] yn ei ddarganfod yn hongian mewn basged yng nghored [[Gwyddno Garanhir|Gwyddno]], i'r gogledd-orllewin o Dre Taliesin rhywle rhwng [[Y Borth]] ac [[Aberdyfi]]. Yn y bryniau tua milltir i'r dwyrain ceir [[cromlech]] [[cynhanes|gynhanesyddol]] a adnabyddir fel [[Bedd Taliesin]].