Cai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
llyfr
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
ehangu
Llinell 5:
Yn [[y Tair Rhamant]], mae Cai yn gymeriad pwysig, ac ymddengys yn chwedl ''[[Breuddwyd Rhonabwy]]'' hefyd. Yn y chwedlau hyn, mae'n gymeriad mwy tebyg i'r hyn ydyw yn y chwedlau Arthuraidd Ffrengig a Seisnig. Ymddengys fel "Keu" yn [[Ffrangeg]] a "Kay" yn [[Saesneg]]. Dywedir yn y chwedlau hyn ei fod yn fab i Ector, a fabwysiadodd Arthur wedi i'r dewin [[Myrddin]] ei ddwyn ymaith oddi wrth ei rieni, [[Uthr Bendragon]] ac [[Eigr]].
 
Ymddengys Cai a Bedwyr yn yr ''[[Historia regum Britanniae]]'' gan [[Sieffre o Fynwy]], lle mae'n cynorthwo Arthur i orchfygu Cawr Mont Saint-Michel. Cai yw [[distain]] Arthur yn ôl Sieffre. Yn fersiwn [[Chrétien de Troyes]], mae'n gymeriad treisiol ac anghwrtais, sy'n cael ei oddef yn y llys yn unig oherwydd ei fod yn frawd maeth i Arthur.
 
Enwyd [[Caer Gai]] ar ei ôl, a cheir cyfeiriadau yng ngwaith [[Beirdd yr Uchelwyr]] at Gaer Gai fel ei gartref.