Cai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
TYP
Llinell 1:
[[Image:Sir Kay breaketh his sword.jpg|thumb|200px|''Syr Cai yn torri ei gleddyf mewn twrnamaint'', gan [[Howard Pyle]]]]
 
Cymeriad a gysylltir a'r brenin [[Arthur]] mewn chwedlau Cymreig yw '''Cai fab Cynyr''' neu '''Cai Hir'''. Ymddengys yn chwedl ''[[Culhwch ac Olwen]]'', lle mae'n cynorthwyo Culhwch i gyflawni'r tasgau a roddwyd iddo gan [[Ysbaddaden Bencawr]] er mwyn iddo gael priodi [[Olwen]]. Cai sy'n cyflawni'r dasg gyntaf, sef cael cleddyf Wrnach Wyddel. Ef hefyd, gyda [[Bedwyr]], sy'n teithio ar ysgwydd [[Eog Llyn Llyw]] i gael hyd i'r carcharor [[Mabon fab Modron]]. Mae'n cael barf y cawr [[Dillus Farfog]] i wneud cynllyfan ar gyfer yr helgi Drudwyn; ond mae'n ffraeo ag Arthur pan mae Arthur yn canu englyn yn ei watwar am daro Dillus pan fo'n cysgu. Ymddengys hefyd yn y gerdd ''Pa ryw [g]ŵr yw y porthor?' yn ''[[Llyfr Du Caerfyrddin]] (o tua'r [[10fed ganrif]]), lle dywedir iddo orchfygu cath enfawr, [[Cath Palug]].
 
Yn [[y Tair Rhamant]], mae Cai yn gymeriad pwysig, ac ymddengys yn chwedl ''[[Breuddwyd Rhonabwy]]'' hefyd. Yn y chwedlau hyn, mae'n gymeriad mwy tebyg i'r hyn ydyw yn y chwedlau Arthuraidd Ffrengig a Seisnig. Ymddengys fel "Keu" yn [[Ffrangeg]] a "Kay" yn [[Saesneg]]. Dywedir yn y chwedlau hyn ei fod yn fab i Ector, a fabwysiadodd Arthur wedi i'r dewin [[Myrddin]] ei ddwyn ymaith oddi wrth ei rieni, [[Uthr Bendragon]] ac [[Eigr]].
 
Ymddengys Cai a Bedwyr yn yr ''[[Historia regum Britanniae]]'' gan [[Sieffre o Fynwy]], lle mae'n cynorthwo Arthur i orchfygu Cawr Mont Saint-Michel. Cai yw [[distain]] Arthur yn ôl Sieffre. Yn fersiwn [[Chrétien de Troyes]], mae'n gymeriad treisiol ac anghwrtais, sy'n cael ei oddef yn y llys yn unig oherwydd ei fod yn frawd maeth i Arthur; gwelir yr ochr dywell i'w gymeriad yn y traddodiad Cymreig hefyd, e.e. yn y ffrae ag Arthur (gweler uchod).
 
Ceir dau o [[Trioedd Ynys Prydain|Drioedd Ynys Prydain]] sy'n cyfeirio at Cai. Yn y cyntaf (Triawd 21 yng ngolygiad [[Rachel Bromwich]]) fe'i enwir gyda [[Drystan fab Tallwch]] a [[Huail fab Caw]] yn un o "Dri Thaleithiog Gad Ynys Prydain" (Tri Ŵr Brwydr-goronog [[Ynys Prydain]]"). Yn y llall (Triawd 26W) cyfeirir ato mewn cysylltiad â hela [[Cath Palug]].<ref>Rachel Bromwich (gol.), ''Trioedd Ynys Prydein'' (Caerdydd 1961; arg, newydd 1991), trioedd 21, 26.</ref>
 
Enwyd [[Caer Gai]] ar ei ôl, a cheir cyfeiriadau yng ngwaith [[Beirdd yr Uchelwyr]] at Gaer Gai fel ei gartref.
 
==Cyfeiriadau==
<references/>
 
==Llyfryddiaeth==
Llinell 15 ⟶ 20:
[[Categori:Cylch Arthur]]
[[Categori:Mytholeg Geltaidd]]
[[Categori:Mytholeg Gymreig]]
[[Categori:Culhwch ac Olwen]]
 
[[de:Keie]]