Erging: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: Teyrnas Gymreig o'r cyfnod ôl-Rufeinig a'r Oesoedd Canol Cynnar a chantref canoloesol oedd '''Erging''' (ceir y ffurf hynafiaethol '''Ergyng''' mewn llyfrau Saesneg)...
 
Llinell 9:
 
==Archenfield==
Daeth yr hen deyrnas yn [[cantref|gantref]] yn yr Oesoedd Canol. Rywbryd cyn i'r [[Normaniaid]] ddechrau ar eu goresgyniad, cipiwyd Erging gan y Saeson. Daethant i'w galw yn ''Archenfield'', ond roedd ei statws yn bur niwlog: hyd at y [[Deddfau Uno]] yn [[1536]] roedd anscicrwydd cyfreithiol am ei statws gweinyddol fel rhan o Gymru neu ran o Loegr. Daeth yn rhan o [[Esgobaeth Henffordd]] pan fu [[Urban, Esgob Llandaf|Urban]] (1107-33) yn [[esgob Llandaf]]. Arosodd yr ardal yn ffyddlon i'r [[Eglwys Gatholig]] am ddegawdau yn wyneb y [[Diwygiad Protestannaidd]].
 
Arosodd yr iaith [[Gymraeg]] yn fyw yn yr ardal tan ddechrau'r cyfnod modern. Mae tystiolaeth arolwg ''[[Llyfr Domesday]]'' (1086) yn awgrymu cymdeithas gwbl Gymraeg, er i'r ardal fod ym meddiant y Saeson ers canrif neu ddwy. Parhaodd yr iaith i gael ei siarad yn Erging tan o gwmpas 1700.