Cynan ab Iago: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
B Wedi symud Cynan ap Iago i Cynan ab Iago: mwy cywir
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Roedd [[Cynan apab Iago]] (fl. tua 1040 - 1060) yn fab i [[Iago ab Idwal ap Meurig]] ([[974]]? — [[1039]]), brenin [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]], ac yn dad [[Gruffudd ap Cynan]], a ddaeth yn ei dro yn frenin Gwynedd.
 
Daeth Iago, oedd o linach [[Idwal Foel]], yn frenin ar Wynedd ar farwolaeth [[Llywelyn ap Seisyll]] yn [[1023]]. Fodd bynnag, lladdwyd ef gan ei ŵyr ei hun yn [[1039]], a dilynwyd ef gan fab Llywelyn ap Seisyll, [[Gruffudd ap Llywelyn]]. Gorfodwyd Cynan apab Iago i ffoi i [[Iwerddon]].
 
Yn Iwerddon, priododd Cynan y dywysoges [[Llychlyn|Lychlynnaidd]] [[Ragnell]] (neu Ragnallt), merch i [[Olaf Arnaid]] (bu farw [[1012]]), un o feibion [[Dubhgall]], brenin [[Dulyn]]. Yn [[Hanes Gruffudd ap Cynan]] wrth drafod achau Gruffudd, dywedir:
Llinell 7:
:''Ei dad oedd Cynan, frenin Gwynedd, a'i fam oedd Ragnell ferch Afloedd (Olaf Arnaid), frenin dinas Dulyn a phumed ran Iwerddon'' (orgraff ddiweddar).
 
Fodd bynnag, nid oes cofnod arall i Gynan deyrnasu ar Wynedd. Lladdwyd Gruffudd ap Llywelyn gan ei ŵyr ei hun yn [[1063]] yn ôl y rhan fwyaf o ffynonellau, ond dywed Brut Wlster mai Cynan apab Iago a'i lladdodd yn [[1064]].
 
Gellir casglu o Hanes Gruffudd ap Cynan fod Cynan wedi marw pan oedd Gruffudd yn ieuanc. Pan ddychwelodd Gruffudd ap Cynan i hawlio teyrnas Gwynedd yn ddiweddarach, cyfeirid ato fel "wyr Iago" yn hytrach na "Mab Cynan", sy'n awgrymu nad oedd Cynan yn adnabyddus yng Nghymru .