Glastonbury: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
llun
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Arthur
Llinell 3:
Tref yng [[Gwlad yr Haf|Ngwlad yr Haf]] yn ne-orllewin [[Lloegr]] yw '''Glastonbury'''. Yr hen enw Cymraeg ar y lle oedd '''Ynys Wydrin''', efallai oherwydd i'r "Glas" yn yr enw gael ei gam-gyfieithu i olygu "gwydyr".
 
Cysylltir Glastonbury a'r chwedl am [[Joseff o Arimathea]] yn dwyn [[y Greal Santaidd]] i [[Ynys Brydain]]. Yn [[1191]], cyhoeddwyd fod mynachod Abaty Glastonbury, wrth ail-adeiladu rhan o'r abaty yn dilyn tân yn [[1184]], wedi cael hyd i fedd gyda thair arch ynddo. Ar un arch roedd croes o [[plwm|blwm]] gyda'r arysgrif :
:<font color=gray>'''HIC JACET SEPULTUS INCLITUS REX ARTURIUS IN INSULA AVALONIA'''</font>
"Yma y gorwedd yr enwog frenin Arthur yn [[Ynys Afallon]]".
 
Yn yr arch roedd gweddillion gŵr 2.40 medr o daldra. Y farn gyffredinol ymysg ysgolheigion yw mai twyll oedd hyn.
 
[[Image:GlastonburyTor(PeterLand)Feb2005 copy.jpg|bawd|600px|canol|Glastonbury Tor]]