Sacsoniaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
B Wedi gwrthdroi golygiadau gan 89.166.160.22 (Sgwrs); wedi adfer y golygiad diweddaraf gan Anatiomaros.
Llinell 1:
[[Delwedd:Germany Laender Schleswig-Holstein.png|thumb|right|150px|Talaith '''Schleswig-Holstein''' yn [[Yr Almaen]]. O'r ardal yma y daeth y Sacsoniaid yn wreddiol.]]
 
Yn wreiddiol, roedd y '''Sacsoniaid''' yn bobl niferus a nerthol oedd yn byw yn yr ardaloedd sydd yn yr [[Almaen]] a'r [[Iseldiroedd]] heddiw. Roedd [[Ptolemy]] yn sôn amdanynt pan yn siarad am Jutland (rhan o [[Denmarc|Ddenmarc]] heddiw) a'r ardal sydd yn [[Schleswig-Holstein]], y talaith mwyaf gogleddol yr Almaen heddiw. Mae'n ymddangos fod yr enw ''Sacson'' yn dod o'r ''Sax'', math o gleddyf yr oeddynt yn ei defnyddio.
 
Llinell 9 ⟶ 11:
Ar y cyfandir yn ystod y [[8fed ganrif]] codwyd [[Dugiaeth]] y Saeson. Roedd y Sacsoniaid yn amharod i dderbyn [[Cristnogaeth|Cristnogol]] am amser hir, ond gorfododd [[Siarlymaen]] ([[772]]-[[804]]) hwy i ddod yn Gristionogion ar ôl eu gorchfygu mewn rhyfel a lladd llawer ohonynt. Dinistriwyd [[Irminsul]] eu coeden sanctaidd.
 
[[Delwedd:Germany Laender Niedersachsen.png|thumb|left|150px|Talaith Niedersachsen (Sacsoni Isaf) yn [[Yr Almaen]].]]
 
 
O dan reolaeth y [[Carolingiaid]] roedd rhaid i'r Saeson talu teyrnged, fel y bobloedd [[Slafiaidd]], megis yr [[Abodrites]] a'r [[Wend]]. Beth bynnag, daeth Sacson i fod yn frenin hefyd ([[Harri I, brenin yr Almaen|Harri yr Adarwr]] ym [[919]]) ac yn ystod y [[10fed ganrif]] daeth Sacson yn ymerawdwr cyntaf yr Almaen ([[Otto I o'r Almaen|Otto I, y Mawr]]). Daeth ei rheolaeth i ben ym [[1024]] a rhanwyd y wlad ym [[1180]] pan oedd [[Harri y Llew]], ei ŵyr, yn gwrthod dilyn yr Ymerawdwr [[Frederick Barbarossa]] i frwydro yn yr [[Eidal]].