Mynachlog-ddu: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Twm Carnabwth
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
Pentref, cymuned a phlwyf yng ngogledd [[Sir Benfro]] yw '''Mynachlog-ddu'''. Saif ychydig i'r gorllewin o'r briffordd [[A478]], ac i'r de-orllewin o bentref [[Crymych]]. I'r gorllewin o'r pentref mae copaon [[Mynydd Preseli]]. Credir fod rhai o gerrig [[Côr y Cewri]] wedi dod o Gaermeini, neu'n fwy cywir [[Carn Menyn]] gerllaw.
 
 
Cysegrwyd yr eglwys i Sant [[Dogfael]]; cyn [[diddymu'r mynachlogydd]] roedd y plwyf yn eiddo i Abaty [[Llandudoch]]. Roedd [[Thomas Rees (Twm Carnabwth)]] ([[1806]] - [[1876]]), un o arweinwyr [[Merched Beca]], yn frodor o Fynachlog-ddu, ac mae wedi ei gladdu yma. Bu'r bardd [[Waldo Williams]] yn byw yma o [[1911]] hyd [[1915]], pan oedd ei dad yn brifathro ar yr ysgol gynradd, ac yma y dysgodd Gymraeg. Ceir cofeb iddo gerllaw'r pentref.
 
 
{{Trefi_Sir_Benfro}}
{{eginyn Cymru}}
 
{{eginyn CymruSir Benfro}}
[[Categori:Pentrefi Sir Benfro]]
 
 
[[en:Mynachlog-ddu]]