William Morris Hughes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
cat
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Bu '''William Morris Hughes''', mwy adnabyddus fel '''Billy Hughes''' ([[25 Medi]], [[1862]] - [[28 Hydref]], [[1952]]) yn brif weinidog [[Awstralia]] o [[1915]] hyd [[1923]].
 
Ganed ef yn [[Llundain]] i rieni Cymreig; roedd ei dad, William Hughes, o [[Caergybi|Gaergybi]] a'i fam o [[Llansanffraid-ym-Mechain|Lansanffraid-ym-Mechain]]. Wedi marwolaeth ei fam pan oedd yn saith oed, bu'n byw gyda chawerchwaer ei dad yn [[Llandudno]], a gyda theulu ei fam yn [[Sir Drefaldwyn]], lle dysgodd siarad Cymraeg.
 
Ymfudodd i Awstralia yn Hydref [[1884]]. Agorodd siop a bu'n weithgar gyda'r undebau llafur. Yn 1901 etholwyd ef i'r Senedd dros y Blaid Lafur yn etholaeth Gorllewin Sydney. Daeth yn Brif Weinidog yn Hydref 1915, ynghanol [[y Rhyfel Byd Cyntaf]]. Bu rhwyg gyda charfan o'r Blaid Lafur, a ffurfiodd Hughes a'i gefnogwyr ei blaid ei hun, y Blaid Genedlaethol, a enillodd etholiad [[1917]], gyda Hughes yn parhau yn Brif Weinidog. Yn [[1919]] cynrychiolodd Awstralia yn y trafodaethau a arweiniodd at [[Cytundeb Versailles|Gytundeb Versailles]]; dywedir ei fod yn sgwrsio yn Gymraeg a [[David Lloyd George]]. Ymddiswyddodd yn Chwefror 1923.