Tawe Uchaf: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
pentrefi
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Cymuned (llywodraeth leol)|Cymuned]] ym [[Powys|Mhowys]], yw '''Tawe Uchaf'''. Saif y gymuned yn yr hen [[Sir Frycheiniog]] i'r gogledd-ddwyrain o [[Ystradgynlais]] ac ar hyd rhan uchaf dyffryn [[Afon Tawe]]. Mae'n cynnwys pentrefi [[Coelbren]], [[Caehopkin]], [[Ynyswen]] a [[Pen-y-cae|Phen-y-cae]]. Roedd poblogaeth y gymuned yn [[2001]] yn 1,516.
 
Ceir nifer fawr o [[ogof|ogofâu]] yn y gymuned; yr enwocaf ohonynt yw [[Ogofâu Dan-yr-Ogof]], un o'r systemau ogofâu mwyaf yng ngorllewin Ewrop ac atyniad poblogaidd i ymwelwyr. Mae'r Cerrig Duon yn gasgliad pwysig o henebion o [[Oes yr Efydd]]. Yn y gymuned yma hefyd y mae plasdy enwog [[Craig-y-nos]], a adeiladwyd yn [[1841]] ac a brynwyd gan y gantores [[Adelina Patti]] yn [[1878]]. Mae cloddio glo brig yn bwysig yn yr ardal.