Hanes yr Almaen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
SieBot (sgwrs | cyfraniadau) B robot Ychwanegu: ga:Stair na Gearmáine |
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) ehangu |
||
Llinell 1:
Y cofnod cyntaf o '''hanes yr Almaen''' yw am nifer o lwythau Almaenig yn byw yn y diriogeth sy'n awr yn wladwriaeth [[yr Almaen]]. Gorchfygwyd rhai o'r rhain gan y Rhufeiniaid, a daeth y rhannau i'r gorllewin o [[Afon Rhein]] yn rhan o'r [[Ymerodraeth Rufeinig]]. Bu'r Rhufeiniaid yn ymgyrchu tu hwnt i afon Rhein hefyd, ond ni lwyddasant i'w gwneud yn rhan o'r ymerodraeth.
Sefydlwyd [[yr Ymerodraeth Lân Rufeinig]] yn y [[9fed ganrif]], a pharhaodd hyd [[1806]]. Yr Almaen oedd cnewyllyn yr ymerodraeth, er ei bod ar adegau yn cynnwys [[Awstria]], [[Slovenia]], [[Gweriniath Tsiec]], gorllewin [[Gwlad Pwyl]], [[yr Iseldiroedd]], dwyrain [[Ffrainc]], [[y Swistir]] a rhan o ogledd[[yr Eidal]]. Collwyd llawer o'r tiriogaethau hyn erbyn canol y [[16eg ganrif]], a daeth i'w galw yn "Ymerodraeth Lân Rufeinig y Genedl Almaenig".
Ffurfiwyd y [[Conffederasiwn Almaenig]] yn [[1815]], yna [[Ymerodraeth yr Almaen]] o [[1871]] hyd [[1918]]. Daeth yr ymerodraeth i ben ar ddiwedd [[y Rhyfel Byd Cyntaf]], a ffôdd yr ymerawdwr [[Wilhem II]] i'r Iseldiroedd.
Sefydlwyd [[Gweriniaeth Weimar]] yn [[1919]], ond dilynwyd y rhyfel gan gyni mawr, a wnaed yn waeth gan y teimlad gan ran o'r boblogaeth o ddarostyngiad cenedlaethol oherwydd [[Cytundeb Versailles]]. Yn [[1933]] daeth [[Adolf Hitler]] yn Ganghellor. Daeth diwedd ar Weriniaeth Weimar a dechreuodd [[y Drydedd Reich]]. Arweiniodd hyn at [[yr Ail Ryfel Byd]] [[1939]] - [1945]]. Wedi i'r Almaen gael ei gorchfygu, rhannwyd y wlad yn ddwy, [[Gorllewin yr Almaen]] a Dwyrain yr Almaen. Parhaodd hyn hyd [[1990]], pan ad-unwyd y wlad.
===Gweler hefyd===
|