Hanes India: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 14:
Dechreuodd mudiad cenedlaethol ym mlynyddoedd cynnar yr [[20fed ganrif]], ac yn y 1920au a'r 1930au bu cyfres o brotestiadau di-drais dan arweniad [[Mahatma Gandhi]]. Ar [[15 Awst]] [[1947]], daeth India yn wlad annibynnol, ond daeth rhan o'i thiriogaeth yn wlad [[Pacistan]]. [[Jawaharlal Nehru]] oedd y Prif Weinidog cyntaf. Dair blynedd yn ddiweddarach, ar [[26 Ionawr]] [[1950]], daeth India yn weriniaeth.
 
Ers hynny, bu rhyfel a [[China]] yn [[1962]] ynghylch y ffîn yn y gogledd-ddwyrain, a bu tri rhyfel yn erbyn Pacistan, yn 1947, 1965 a 1971. Yn 1974, arbrofodd India fom atomig, gydag arbrofion pellach yn 1998. Ar [[31 Hydref]] [[1984]] llofruddiwyd y Prif Weinidog [[Indira Gandhi]] gan aelodau o'i gwarchodlu [[Sikh]]. Cymerodd ei mab hynaf [[Rajiv Gandhi]] yr awennau. Ers newidiadau economaidd yn [[1991]], mae economi India wedi tyfu'n gyflym, ac o ganlyniad mae dylanwad rhyngwladol y wlad wedi cynyddu.
 
Yn etholiad cyffredinol Mai [[2004]], enillodd cynghrair o bleidiau dan arweiniad [[Plaid y Gyngres]] fwyafrif, a daeth [[Manmohan Singh]] yn Brif Weinidog.